From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r slefren fôr (neu ar lafar gwlad: cont fôr) yn perthyn i'r ffylwm Cnidariad ac yn greaduriaid di-asgwrn cefn. Maent yn nofio drwy symud eu siap tebyg i gloch neu ymbarel o jeli. Mae ganddynt tentacles y defnyddiant i frathu neu bigo eu hysglyfaeth.
Maent i'w canfod ym mhob cefnfor - o wyneb y dŵr i'r dyfnder eithaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n gallu byw mewn dŵr croyw, fodd bynnag. Maent wedi nofio'r moroedd ers o leiaf 500 miliwn o flynyddoedd,[1] ac o bosib 700 miliwn o flynyddoedd neu ragor, sy'n eu gwneud yn un o'r mathau hynaf o anifail aml-organ ar wyneb y Ddaear.
Defnyddir y gair jellyfish yn y Saesneg ers 1796,[2] ond mae'r gair Cymraeg yn llawer hŷn.
Cysylltwyd y gair "Medusa" (Hen Roeg: Μέδουσα) gyda'r slefren fôr yn 1752 gan Linnaeus oherwydd tebygrwydd y dduwies Groegaidd o'r un enw, a'i gwallt nadreddog.
Welsoch chi'r sglefrod môr ar y traethau eleni, ar draethau fel Harlech (7 Gorffennaf 2013, Twm Elias), a Dinas Dinlle (17 Gorffennaf, DB). Slefrod lloerol Aurelia aurita oedd y rhan fwyaf, ond ambell i slefren mwng llew Cyanea capillata hefyd (llun). Cafwyd rhywbeth tebyg ddiwedd Mehefin 2005: "Mae pla o sglefrod môr ym Mae Tremadog. Arwydd o dywydd terfysg medda' nhw".[www.cimwch.com].[3]
Sglefren Harri Morgan yw enw Sion Roberts ar y slefren mwng llew. Meddai Sion: "Fe'i gwelir yn aml mewn heigiau yn yr hâf. Mae'r tentaclau yn hir iawn, ac mae'r pigiad sydd ganddi yn boenus. Mae'n ymddangos mewn stori Sherlock Holmes o'r enw 'The Adventure Of The Lion's Mane' ".
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.