St Ives (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol yng Nghernyw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Etholaeth seneddol yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw St Ives. Mae'n cynnwys nid yn unig ardal ar y tir mawr ond Ynysoedd Syllan hefyd. Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
- Etholaeth St Ives yng Nghernyw
- Cernyw yn Lloegr
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Ardal weinyddol | De-orllewin Lloegr |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Cernyw Lloegr |
Arwynebedd | 530.4 km² |
Cyfesurynnau | 50.21°N 5.48°W |
Cod SYG | E14000385, E14000964 |
Cau
Sefydlwyd St Ives fel etholaeth fwrdeistrefol yn 1558. Dychwelodd ddau aelod seneddol tan 1832, ac ar ôl hynny dim ond un aelod. Daeth yn etholaeth sirol a ddychwelodd un aelod yn 1885.