System of a Down
From Wikipedia, the free encyclopedia
Band roc o Galiffornia, yr Unol Daleithiau (UDA) yw System of a Down. Mae gan y band bedwar aelod: Serj Tankian (prif leisydd, allweddellau), Daron Malakian (llais, gitâr), Shavo Odadjian (gitâr fâs) a John Dolmayan (drymiau). Maent i gyd o dras Armenaidd. Mae eu cerddoriaeth yn cymysgu metel trwm gydag elfennau o roc caled, roc pync, canu gwerin a jazz. Yn aml, mae eu caneuon yn sôn am bynciau gwleidyddol fel y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a hil-laddiad yr Armeniaid. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf System of a Down yn 1999. Cyrhaeddodd llwyddiant masnachol yn 2001 gyda'u hail albwm Toxicity a'r sengl "Chop Suey!".
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Gwlad ...
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Label recordio | Sony Music, Columbia Records, American Recordings |
Dod i'r brig | 1994 |
Dechrau/Sefydlu | 1995 |
Genre | alternative metal, metal newydd |
Yn cynnwys | Serj Tankian, Daron Malakian, Shavo Odadjian, John Dolmayan, Ontronik Khachaturian |
Gwefan | https://systemofadown.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau