From Wikipedia, the free encyclopedia
Tŵr Tatlin, neu'r prosiect ar gyfer y Cofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919–20),[1] oedd yn gynllun i godi tŵr anferth gan yr arlunydd a phensaer Rwsaidd Vladimir Tatlin, na chafodd erioed ei adeiladu [2]. Bwriad Tatlin oedd i godi’r tŵr ym Mhetrograd (St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd yn 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).
Yn dilyn chwyldro Rwsia cynigiodd Vladimir Tatlin gynlluniau i adeiladu tŵr steil lluniadaeth (constructivist) i'w adeiladu o ddefnyddiau diwydiannol: haearn, gwydr a dur. Yn ei ddefnyddiau, siâp a'i ddefnydd, roedd i fod yn symbol blaenllaw o fodernedd ac yn llawer uwch na Thŵr Eiffel ym Paris. Prif ffurf y tŵr oedd dwbl droell oedd i godi hyd at 400 medr o uchder [3] oedd i gludo'r ymwelwyr gyda chymorth amryw o ddyfeisiadau mecanyddol. Y prif fframwaith oedd i gynnwys pedwar strwythur geometreg grog. Y bwriad oedd i'r strwythurau hyn troi ar wahanol raddfeydd o gyflymdra.
Hyd yn oed petai'r cyflenwad enfawr o ddur wedi bod ar gael yn Rwsia ar y pryd (roedd y wlad yn dioddef argyfwng economaidd, prinder adnoddau sylfaenol a helyntion gwleidyddol), mae amheuaeth ddifrifol a oedd yr adeilad yn ymarferol o gwbl.[4]
Roedd y tŵr i fod i gynrychioli gobeithion y wlad [3] ac i herio'r Tŵr Eiffel i fod yn brif symbol y byd modern.[5] Galwodd yr ysgrifennwr Sofietaidd Viktor Shklovsky yr adeilad yn "gynnyrch dur, gwydr a chwyldro " [3]
Mae modelau Tŵr Tatlin yn yr Amgueddfa Gelf Fodern yn Stockholm, Sweden, yn Oriel Tretyakov, Moscow, ac yn y Musée National d'Art Moderne yn y Centre Georges Pompidou, Paris. Cafodd model 1:42 ei adeiladu yn yr Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain, Tachwedd 2011.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.