Tŷ Opera Brenhinol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Tŷ Opera Brenhinol yn dŷ opera a lleoliad celfyddydau perfformio mawr yn Covent Garden, canol Llundain. Cyfeirir yn aml at yr adeilad mawr fel "Covent Garden" yn unig, ar ôl defnydd blaenorol y safle cyn adeiladu'r Tŷ Opera ym 1732. Mae'n Gartref i'r Opera Brenhinol, Y Bale Brenhinol a Cherddorfa'r Tŷ Opera Brenhinol. Yr enw gwreiddiol oedd The Theatre Royal. Fe'i gwasanaethodd yn bennaf fel theatr adloniant ysgafn am ganrif gyntaf ei hanes. Ym 1734, cyflwynwyd y bale cyntaf yno. Blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd tymor cyntaf operâu Handel. Ysgrifennwyd llawer o'i operâu a'i oratorïau yn benodol ar gyfer Covent Garden ac yno cawsant eu perfformio gyntaf
Math | tŷ opera, theatr, canolfan celfyddydau perfformio |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster, Llundain |
Agoriad swyddogol | 15 Mai 1858 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Covent Garden |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5131°N 0.1225°W |
Cod OS | TQ3036281019 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Yr adeilad presennol yw'r drydedd theatr ar y safle yn dilyn tanau trychinebus ym 1808 a 1856. Mae'r ffasâd, y cyntedd a'r awditoriwm yn dyddio o 1858, ond bron pob elfen arall o'r safle yn dyddio o ailadeiladu helaeth yn y 1990au. Mae'r prif awditoriwm yn eistedd 2,256 o bobl, gan ei gwneud y drydydd mwyaf yn Llundain, ac mae'n cynnwys pedwar haen o flychau a balconïau a'r oriel amffitheatr. Mae'r prosceniwm yn 12.20 m o led a 14.80 m o uchder. Mae'r prif awditoriwm yn adeilad rhestredig Gradd I.[1]