bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd, nofelydd, dramodydd, beirniad llenyddol, ysgolhaig, cyfieithydd a newyddiadurwr oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn ac yn ffigwr allweddol yn llenyddiaeth, ysgolheictod ac astudiaethau llên gwerin Cymru yn hanner cyntaf yr 20g. Mae wedi ei ddisgrifio fel un o ffigyrrau deallusol pennaf ei oes yn y Gymraeg ac sonir amdano'n aml fel un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.[1][2][3] Roedd yn ffigwr allweddol yn y 'dadeni' ym Marddoniaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[4] Roedd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg.
Y Prifardd a'r Athro T. Gwynn Jones | |
---|---|
Llun gan arlunydd anhysbys o T. Gwynn Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol | |
Ganwyd | Thomas Jones 10 Hydref 1871 Y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos, Sir Ddinbych, Cymru |
Bu farw | 7 Mawrth 1949 oed) Willow Lawn, Caradoc Road, Aberystwyth, Cardiganshire, Cymru | (77
Enwau eraill | Gwynvre ap Iwan, Ruhrik Du, nifer o ffugenwau eraill. |
Gwaith | Bardd, ysgolhaig, beirniad, nofelydd, newyddiadurwr, llyfrgellydd |
Gweithiau nodedig | Cerddi: Ymadawiad Arthur, Madog, Gwlad y Bryniau, Ystrad Fflur, Gwlad y Gân, Anatiomaros, Tir na Nog; Nofelau a straeon byrion: Enaid Lewys Meredydd, Gorchest Gwilym Bevan, Brethyn Cartref; Gweithiau eraill: Gwaith Tudur Aled, Cofiant Thomas Gee |
Teitl | Athro Emeritws Celteg |
Priod | Margaret Jane Davies |
Plant | Eluned, Arthur ap Gwynn, Llywelyn |
Rhieni | Isaac Jones a Jane Roberts |
Gwobrau | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1902 ac 1909), D.Litt (Cymru) (1937), D.Litt (Eire) (1937), C.B.E. (1937) |
Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw). 'Thomas' oedd ei unig enw bedydd; mabwysiadodd yr enw Gwynn (ar ôl y Gwyndy) yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel newyddiadurwr.[5] Roedd yn fab i Issac a Jane Jones; ffermwr a bardd amatur oedd Isaac Jones; symudodd y teulu nifer o weithiau wrth i denantiaethau Isaac gael eu terfynu gan landlordiaid am resymau gwleidyddol, ffaith a ddylanwadodd ar wleidyddiaeth Gwynn ei hun yn ddiweddarach yn ei oes.
Ni chafodd fwy o ysgol ffurfiol nag oedd yn arferol i fachgen o'i ddosbarth; aeth i ysgolion yn Llanelian (Hen Golwyn), lle profodd ddefnydd o'r Welsh Not, Abergele a Dinbych. roedd yn ddisgybl galluog fodd bynnag a chafodd hefyd rywfaint o diwtora mewn Groeg, Lladin a Mathemateg gan gymydog mewn paratoad ar gyfer cais am ysgoloriaeth i Rydychen; ac yntau'n barod i fynd yno fodd bynnag profodd gyfnod o iechyd gwael a barodd dros flwyddyn gan ei rwystro rhag allu derbyn ei ysgoloriaeth.[5]
A'i iechyd yn rhy wael i ystyried ffermio, dilynodd gyrfa fel newyddiadurwr wedi gadael cartref, gan ddod yn is-olygydd ar Baner ac Amserau Cymru yn 1890 dan olygyddiaeth Thomas Gee yn Ninbych. Yn 1893 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes ar Y Cymro, ond dychwelodd i Ddinbych a'r Faner yn 1895 gan weithio hefyd ar bapur Saesneg y North Wales Times.[5] Yn ddiweddarach ysgrifennodd gofiant i Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith.
Ymddangosodd ambell stori fer a cherdd ganddo dan ffugenwau yn ystod yr 1890au, a chafodd enw fel newyddiadurwr beiddgar nad oedd ofn ganddo feirniadu'r gyfundrefn, yn enwedig yr Ymerodraeth Brydeinig a chyfundrefn barddol yr Eisteddfod a oedd, ym marn Gwynn, yn henffaswin ac yn isel ei safon. Roedd yn ohebwr cyson ag Emrys ap Iwan, a fu'n dylanwad gwleidyddol a llenyddol sylweddol arno ga Bu Gwynn weithredol hefyd ym mudiad Cymru Fydd.[6] Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald dan olygyddiaeth ei gyfaill Daniel Rees; dechreuodd ei nofel gyntaf Gwedi Brad a Gofid ymddangos ar dudalennau'r Herald yn 1897; fodd bynnag ei waith llenyddol pwysicaf o'r cyfnod hwn oedd y cyntaf o'i gerddi hir, Gwlad y Gân (1896-7), cerdd yn dychan y gyfundrefn barddol a ddisgrifiwyd gan W. J. Gruffydd yn "daranfollt".[5] O 1898-99 ymddangosodd nofel arall o'i eiddo, Camwri Cwm Eryr ym Mhapur Pawb, cylchgrawn oedd hefyd dan olygyddiaeth Rees; ymddangosodd ei drydedd nofel Gorchest Gwilym Bevan yn Y Cymro yn 1899.
Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.
Er gwaethaf Gwlad y Gân fel nofelydd felly yr oedd Gwynn yn fwyaf adnabyddus yn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[7] Roedd ei fryd ar farddoniaeth fodd bynnag, a phenderfynodd gystadlu am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, gan gwblhau ei awdl ar y funud olaf.[8] Nid oedd Gwynn wedi disgwyl i'w awdl yntau ennill y gystadleuaeth ac nid oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni; cadeiriwyd ei gyfaill Beriah Gwynfe Evans yn ei le.[9]
Ochr yn ochr â'i lwyddiant eisteddfodol parhaodd ei yrfa newyddiadurol, a daliodd i ysgrifennu nofelau a cherddi hefyd drwy flynyddoedd cynnar y ganrif. Cyhoeddwyd dau gasgliad o'i gerddi yn ystod y cyfnod hwn, Gwlad y Gân a Chaniadau Eraill (1902) ac Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill (1910). Yn dilyn cyfnod o gorweithio profodd broblemau iechyd ac yn dilyn diagnosis o'r diciâu yn 1905 treuliodd sawl mis yn yr Aifft, gan ymweld ag Alexandria a Chairo i geisio lleddfu'r clefyd, gan ddal i ysgrifennu cyfraniadau at y wasg yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ddiweddarch cyhoeddwyd rhai mewn cyfrol yn cofnodi'r daith, Y Môr Canoldir a'r Aifft (1912), un o'r enghreifftiau cynharaf yn y Gymraeg o lenyddiaeth taith.
Wedi iddo dychwelyd daeth yn olygydd ar Bapur Pawb, lle daliodd i gyhoeddi nofelau; yn 1905, cyhoeddwyd ei seithfed, Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002; sef, mae'n debyg, yr enghraifft cynharaf o nofel wyddonias yn y Gymraeg.[10] Mewn cyfnod eithriadol o brysur o 1905 i 1908 cyhoeddodd nifer o nofelau a chyfieithiadau a dros dau gant o straeon byrion ym Mhapur Pawb a chyhoeddiadau eraill.[11] Casglwyd rhai o'r rhain yn ddiweddarach yn y gyfrol Brethyn Cartref (1913).
Ennillodd y Gadair am yr eildro yn y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 gyda'r awdl Gwlad y Bryniau.
Yn chwilio am waith fyddai'n gofyn llai o'i iechyd bregus,[12] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909. Gyda'i waith fel newyddiadurwr daeth ei yrfa fel nofelydd i ben hefyd: er iddo fyw am bron i ddeugain mlynedd eto ni chyhoeddodd nofel arall ar ôl John Homer yn 1910.
Nid oedd y gwaith yn y llyfrgell at ei ddant, fodd bynnag.[13] Daeth ddihangfa pan agorodd cyfle iddo ddod yn ddarlithydd yn adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.
Yn dilyn cyfnod yn ysgrifennu dramâu yn yr 1910au, ei waith ysgolheigaidd mynnodd y sylw mwyaf am weddill ei oes, gan gynnwys ei gofiant i Thomas Gee a golygiad o waith Tudur Aled ymhlith nifer fawr o waith ysgolheigaidd arall mewn meysydd amrywiol. Daliodd ati i gyfieithu ac i farddoni fodd bynnag, gyda nifer o'i gerddi hwyr yn ymddangos mewn cyfrol yn 1944 dan y teitl Y Dwymyn. Yn 1924 cyfeitihodd ddrama fawr Goethe Faust i'r Gymraeg.
Er nad yw'n ymddangos iddo gystadlu eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl ennill y gadair am yr eildro yn 1909, gwasanaethodd fel beirniad eisteddfodol ar nifer o adegau drwy weddill ei fywyd, ac ef oedd y prif feirniad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1917 pan gwobrwywyd y bardd ifanc Hedd Wyn.
Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Cafwyd ymdrech gan nifer o ysgolheigion Ewropeaidd i'w enwebu am Wobr Nobel am Lenyddiaeth, fodd bynnag gwrthododd Gwynn dderbyn yr enwebiad.[14]
Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth, 7 Mawrth 1949, yn 77 oed; cafodd ei gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn. Gadawodd ei wraig Margret a dau o blant, gan gynnwys Arthur ap Gwynn.[5]
Roedd Gwynn yn genedlaetholwr Cymreig; bu'n weithredol ym mudiad Cymru Fydd yn ystod yr 1890au.[15] ac mae themâu cenedlaetholgar i'w gael yn rhai o'i nofelau, yn enwedig Enaid Lewys Meredydd.
Roedd Gwynn yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a cherddodd allan o'r babell yn fwriadol yn ystod araith y Prif Weinidog David Lloyd George yn ystod seremoni cadeirio Eisteddfod 1917 .[16] Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth hefyd, pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.
Er gwaethaf cynnyrch toreithiog T. Gwynn Jones mewn ystod eang o genres llenyddol, hwyrach mai am ei waith fel bardd y cofir ef fwyaf; ac fe'i ystyrir ymhlith beirdd pennaf yr iaith Gymraeg mewn unrhyw ganrif,[1][2] yn enwedig am ei gerddi naratifol hir ar gynghanedd, sy'n cynnwys Ymadawiad Arthur, Tir Na Nog, Anatiomaros, Madog ac eraill. Roedd Gwynn yn feistr ar y gynghanedd a rhoddir teyrnged iddo'n aml am adnewyddu traddodiad y canu caeth; ystyriai R. Silyn Roberts (enillydd y Goron yn 1902 - yr un flwyddyn enillodd Gwynn y gadair gydag Ymadawiad Arthur - bod y gerdd honno wedi'i argyhoeddi bod y gyngnhanedd eto'n fyw.[17] Er bod ei ddwy gerdd eisteddfodol fuddugol yn awdlau confensiynol (o ran mesur barddonol), roedd yn arbrofwr cysgon gyda'r gynghanedd, gan ddefnyddio mesurau cynghaneddol y tu hwnt i'r pedwar mesur ar hugain mewn cerddi fel Madog. Defnyddiodd y gynghanedd hyd yn oed wrth gyfieithu barddoniaeth.[1]
Ystyrir Gwynn fel arfer yn ramantydd, yn sicr yn ystod blynyddoedd cyntaf yr Ugeinfed ganrif.[18] Roedd Gwynn yn un o'r cynharaf o nifer o feirdd amlwg yn barddoni ar ddechrau'r ugeinfed ganrif - yn eu plith W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a T. H. Parry Williams - gan ei wneud yn gyfnod a ddisgrifir weithiau fel 'dadeni' ym marddoniaeth Gymraeg, a Gwynn yn ffigwr allweddol iddo.[4] Fodd bynnag mae beirniaid eraill wedi dadlau bod elfennau o foderniaeth i'w gweld ym marddoniaeth Gwynn, yn enweidg ei gerddi hwyr.[18]
Bu'n ddylanwad uniongyrchol ar nifer o feirdd Cymraeg eraill gan gynnwys ei gyfoeswyr R. Williams Parry[1] ac R. Silyn Roberts[17] a beirdd diweddarach fel Gwenallt.[1]
Ni chafodd nofelau Gwynn yr un sylw â'i farddoniaeth; fodd bynnag ym marn ei gofiannydd Alan Llwyd roedd yn arloeswr yn y maes a dylid ei ystyried Gwynn yn "ewythr" y nofel Gymraeg.[19]
(Dim ond casgliadau a ddetholwyd gan Gwynn Jones ei hun yn ystod ei fywyd a restrir yma)
(Mae'r flwyddyn gyntaf yn cyfeirio at ddyddiad cyhoeddiad gwreiddiol y nofelau mewn cyfnodolion; yr ail flwyddyn y cyhoeddiad cyntaf fel cyfrol, os cafwyd un)
Sonir yn fyr am helynt y cadeirio ym Mangor yn 1902 (gweler Nodiadau isod) yn y nofel Chwalfa gan T. Rowland Hughes. Sonir am nofel Gwynn Lona yn Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.