Teyrn (gwyddbwyll)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn Gwyddbwyll, gall y Teyrn neu'r Brenin symud un sgwâr i unrhyw gyfeiriad. Pan fo'r teyrn yn cael ei fygwth, gelwir hyn yn Siach, ac mae'n rhaid iddo ddod allan o siach ar unwaith. Gall wneud hynny drwy naill ai
- a) symud i sgwâr na fygythir gan y gelyn
- b) cymryd y darn sy'n ei fygwth ei hun neu gyda darn arall os mai dim ond un darn sy'n ei fygwth, (h.y. nad yw'r Teyrn mewn siach ddwbl)
- c) blocio'r bygythiad.
All y Teyrn ddim symud i sgwâr a reolir gan y gelyn, neu byddai'n symud mewn i siach. Gall gymryd unrhyw ddarn sy'n eiddo i'r lliw arall, dim ond iddo beidio symud mewn i siach wrth wneud hynny. Os yw'r Teyrn mewn siachmat mae'r chwaraewr yn colli'r gêm. Gall Teyrn symud ymlaen ac yn ôl. Mae'r Teyrn hefyd yn rhan o symudiad arall sy'n cynnwys dau ddarn o'r un lliw, sef castellu.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.