The Sims (gêm fideo)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gêm fideo strategol sy'n efelychu bywyd ac a ddatblygwyd gan y cwmni meddalwedd Maxis yw The Sims. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Electronic Arts a hynny yn 2000. Mae'r chwaraewr yn trefnu ac yn datblygu bywyd cymeriadau rhithwir a elwir yn "Sims", mewn cartref neu dref ffuglenol.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Crëwr ...
Enghraifft o'r canlynol | gêm fideo |
---|---|
Crëwr | Will Wright |
Cyhoeddwr | Electronic Arts |
Iaith | Almaeneg, Saesneg, Sbaeneg, Iseldireg, Daneg, Ffrangeg, Eidaleg, Swedeg, Japaneg, Simlish |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Chwefror 2000 |
Genre | life simulation game, gêm fideo gyda chymeriad LHDT |
Cyfres | The Sims |
Lleoliad y gwaith | SimNation |
Cyfansoddwr | Jerry Martin |
Gwefan | http://www.thesims.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Arweinydd y prosiect oedd Will Wright ac roedd y gêm yn ddatblygiad naturiol o gyfres o gemau cynharach, sef SimCity. Cafwyd 7 pecyn ehangu rhwng 2000 a 2003, er mwyn ychwanegu cymeriadau, arwynebau a nodweddion eraill newydd. Cafwyd hefyd sawl dilyniant: The Sims 2 yn 2004, The Sims 3 yn 2009, a The Sims 4 yn 2014.