Thomas Percy
esgob Anglicanaidd Gwyddelig (1729-1811) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Clerigwr Anglicanaidd, awdur a hynafiaethydd oedd Thomas Percy (13 Ebrill 1729 – 30 Medi 1811), Esgob Dromore. Roedd yn frodor o Bridgnorth, Swydd Amwythig. Cyn cael cael ei benodi yn esgob bu'n gaplan i Siôr III. Cofir Percy yn bennaf am ei gyfrol ddylanwadol Reliques of Ancient English Poetry (1765), casgliad o faledi o Loegr a Gororau'r Alban a chafodd ddylanwad mawr ar y mudiad Rhamantaidd ac a fu'n gyfrifol am adfer y faled fel ffurf lenyddol yn Lloegr.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thomas Percy | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1729 Bridgnorth |
Bu farw | 30 Medi 1811 Dromore |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, gwerthwr hen greiriau, offeiriad, ysgrifennwr, cerddolegydd, cyfieithydd |
Swydd | esgob |
Tad | Arthur Lowe Percy |
Priod | Anne Gutteridge |
Plant | Elizabeth Percy, Barbara Percy |
Cau
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Percy (gwahaniaethu).