hynafiaethydd, beirniad llenyddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd, beirniad ac awdur o Gymru oedd Thomas Stephens (21 Ebrill 1821 - 4 Ionawr 1875). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y llyfr dylanwadol The Literature of the Kymry (1849).
Thomas Stephens | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1821 Sir Forgannwg |
Bu farw | 4 Ionawr 1875 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, beirniad llenyddol |
Cyflogwr |
Ganed ef ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg (de Powys heddiw), yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref Merthyr Tydfil yn 1835. Yn ddiweddarach daeth yn berchen ar y siop fferyllydd ac yn ŵr amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd Llyfrgell Merthyr.
Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn 1848 enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch, The Literature of the Kymry. Yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan Madog am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.