Thutmosis III
From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin yr Hen Aifft yn ystod y Deyrnas Newydd oedd Thutmosis III neu Thutmose III (ca. 1479 CC - 1425 CC). Ef oedd chweched brenin y 18fed brenhinllin.
Thutmosis III | |
---|---|
Ganwyd | 1481 CC ![]() |
Bu farw | c. 1425 CC ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Hen Aifft ![]() |
Galwedigaeth | gwladweinydd ![]() |
Swydd | Pharo ![]() |
Tad | Thutmose II ![]() |
Mam | Iset ![]() |
Priod | Nebtu, Menhet, Menwi and Merti, Nebsemi, Satiah, Merytre-Hatshepsut ![]() |
Plant | Amenemhat, Meritamen, Iset, Menkheperre, Beketamun, Amenhotep II, Nebetiunet, Siamun ![]() |
Llinach | Eighteenth Dynasty of Egypt ![]() |
Roedd Thutmosis III yn fab i'r brenin Thutmosis II ac un o'i wragedd, Isis. Bu farw Thutmosis II pan oedd Thutmosis III yn dal yn blentyn bychan, ac er i Thutmosis III ddod yn frenin mewn theori, cipiwyd grym gan Hatshepsut, prif wraig Thutmosis II. Bu Hatshepsut yn rheoli'r Aifft am 22 mlynedd, a dim ond ar ôl ei marwolaeth hi y daeth Thutmosis III yn frenin mewn gwirionedd.
Teyrnasodd Thutmosis III am 32 mlynedd wedi marw Hatshepsut, a dangosodd ei hun yn un o gadfridogion mwyaf galluog yr Hen Aifft. Dywedir iddo gipio 350 o ddinasoedd, ac erbyn diwedd ei oes, roedd ei deyrnas yn ymestyn o afon Ewffrates i dde Nubia. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd yr Aifft i ymgyrchu tu hwnt i afon Ewffrates, yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn Mitanni. Cofnodir ei fuddugoliaethau mewn arysgrifau a cherfluniau ym nheml Karnak ger Luxor.
Rhagflaenydd: Thutmosis II (yn swyddogol) Hatshepsut |
Brenin yr Aifft 1458 CC – 1425 CC |
Olynydd: Amenhotep II |