Tinwen y garn
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn bychan o deulu'r Muscicapidae yw Tinwen y garn (ll. tinwennod; enw Lladin:Oenanthe oenanthe); yn flaenorol ystyrid ei fod yn aelod o deulu'r bronfreithod, y Turdidae. Mae'n rywogaeth cyffredin iawn yn Ewrop a rhannau o Asia. Mae'n 14½–16 cm o hyd, fymryn yn fwy na Robin Goch. Daw'r enw o'r darn gwyn uwchben y gynffon, rhywbeth sy'n amlwg iawn wrth i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Tinwen y garn | |
---|---|
Ceiliog yn Llydaw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Muscicapidae |
Genws: | Oenanthe |
Rhywogaeth: | O. oenanthe |
Enw deuenwol | |
Oenanthe oenanthe (Linnaeus, 1758) | |
Cau
Mae Tinwen y garn yn aderyn mudol, yn symud tua'r de i Affrica yn y gaeaf. Ar dir agored y mae'n nythu, yn enwedig lle mae cerrig neu greigiau. Yng Nghymru, mae'n aderyn nodweddiadol o'r ucheldiroedd; er enghraifft mae'n nythu bron hyd at gopaon mynyddoedd uchaf Eryri.