Roedd Gweithrediadau KeolisAmey Cymru yn masnachu fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru[1][2], a weithredodd masnachfraint Cymru a'r Gororau rhwng Hydref 2018 a Chwefror 2021.
Gorolwg | |
---|---|
Masnachfraint |
|
Prif region(oedd) | Cymru |
region(oedd) arall | |
Rhagflaenydd | Trenau Arriva Cymru |
Olynydd | Trafnidiaeth Cymru Trenau |
Cwmni rhiant |
|
Gwefan | trctrenau.cymru, www.keolisamey.cymru/cy/ |
Technical | |
Lled | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Ar 22 Hydref 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gamu mewn i redeg y gwasanaethau yn uniongyrchol drwy is-gwmni. Roedd hyn yn dilyn y pandemig coronafeirws pan cwympodd y nifer o deithwyr yn sylweddol. Cychwynodd y drefn newydd o 7 Chwefror 2021 gan drosglwyddo y gweithrediadau i gwmni Trafnidiaeth Cymru Trenau.[3] Bydd cwmni Amey Keolis Infrastructure Cyf yn parhau i ofalu am yr isadeiledd ar linellau craidd y cymoedd a bydd Keolis Amey yn parhau i ddarparu eu arbennigedd drwy bartneriaeth.[4]
Hanes
Ym mis Hydref 2016 cyrhaeddodd tri chwmni y rhestr fer ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau, sef Abellio, y gweithredwr cyfredol Arriva, a menter ar y cyd rhwng Keolis/Amey a Chorfforaeth MTR.[5][6]
Ym mis Hydref 2017, gadawodd Arriva y broses, wedi ei ddilyn ym mis Chwefror 2018 gan Abellio yn dilyn cwymp eu partner Carillion.[7][8][9][10] Ym mis Mai 2018, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd i Keolis Amey Wales Cymru. Roedd yn cychwyn ar 14 Hydref 2018 gyda'r bwriad o redeg am 15 mlynedd.[11]
Yn wahanol i'r fasnachfraint flaenorol, a ddyfarnwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn Llundain, dyfarnwyd y fasnachfraint newydd gan Drafnidiaeth Cymru.
Gwelliannau
Mae yna gynlluniau i wella'r gwasanaethau rhwng 2018 a 2033 fel rhan o'r fasnachfraint newydd:
- Cyflwyno unedau newydd diesel dau a thri cherbyd ar gyfer gwasanaeth Aberdaugleddau i Manchester Piccadilly erbyn 2023
- Deuddeg cerbyd Mark 4 wedi ailwampio, ar gyfer prif wasanaeth Caergybi i Gaerdydd Ganolog
- Buddsoddi yng ngorsaf Caer erbyn 2028
- Cynyddu gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston i 2 dren bob awr erbyn Rhagfyr 2021 fel rhan o Metro Gogledd Ddwyrain Cymru
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer o Ragfyr 2018
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Lerpwl, Llandudno a'r Amwythig o Ragfyr 2022
- Cyflwyno gwasanaeth newydd bob dwy awr o Lerpwl i Gaerdydd Canolog o Ragfyr 2022
- Cyflwyno gwasanaeth uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Fangor o Ragfyr 2022
- Gwasanaethau bob awr rhwng Cheltenham Spa a Chaerdydd erbyn Rhagfyr 2022
- DMUs newydd ar lein y Cambrian yn ystod 2022 i ddisodli yr hen Ddosbarth 158 Express Sprinters
- Trenau wedi ei adnewyddu, Dosbarth 170 Turbosta ar linell Calon Cymru erbyn 2022
- Buddsoddi yng nghorsafoedd Caerfyrddin a Machynlleth erbyn 2021 a gorsaf Llanelli erbyn 2025
- Darparu peiriannau tocyn mewn mwy o orsafoedd
- Cyflwyno Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol newydd ar gyfer llinelli Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth un trên yr awr cyson ar lein y Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth
- Gwasnaeth ychwanegol bob dydd ar linell Calon Cymru o Ragfyr 2022
- Gwasanaethau ychwanegol ar Suliau yn ystod yr haf o Fai 2023 rhwng Tywyn a Phwllheli – yn cynnwys gwasanaeth newydd cyflym 1 trên yr awr rhwng prif ganolfannau erbyn 2025
- Gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Abertawe a Manceinion o Ragfyr 2024
- Cyfnewid holl gerbydau Dosbarthau 142 a 143 Pacers erbyn diwedd 2019
- Cyflwyno Metro Canolog sy'n gwella amserau teithio a chynyddu amledd i o leia pedwar trên bob awr o frig bob llinell y Cymoedd drwy ddefnyddio trenau newydd
- Cyflwyno talu-wrth-fynd ar gyfer defnyddwyr cardiau clyfar erbyn Ebrill 2020
- Dileu defnydd diesel ar linellau Metro Canolog (i'r gogledd o Gaerdydd Heol y Frenhines) erbyn 2024
- Darparau peiriannau tocyn yn holl orsafoedd Metro De Cymru erbyn Ebrill 2019
- Adeiladu gorsafoedd newydd yn Sgwâr Loudon, Ffordd Crwys ac y Flourish erbyn Rhagfyr 2023 a Gabalfa erbyn 2028 a adleoli gorsaf Stad Trefforest erbyn Rhagfyr 2025
- Cyflwyno trenau newydd tri-modd rhwng Penarth, Barry a Phen-y-bont ar Ogwr i gyrchfannau gogledd i Gaerdydd Canolog
- Gwasaneth newydd 1 tren yr awr (tya) rhwng Tref Glyn Ebwy a Chasnewydd o Fai 2021
- 2tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr drwy linell Bro Morgannwg o Ragfyr 2023
- 4tya ar linell Rhymni o Ragfyr 2023
- 4tya i Dreherbert o Ragfyr 2022
- 6tya i Fae Caerdydd o Ragfyr 2022
- 4tya rhwng Merthyr Tudful, Aberdar a Chaerdydd o Ragfyr 2022
- 4tya rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (uniongyrchol, Llun i Sadwrn) o Ragfyr 2019
- Cyflwyno fflyd newydd o unedau lluosog diesel (DMU) i linell Arfordir Gogledd Cymru yn 2022
- Buddsoddi yng nghorsafoedd Shotton a Wrecsam Canolog erbyn Ebrill 2024
- Buddsoddi i gyd-gyllido adeilad gorsaf newydd ym Mlaenau Ffestiniog
Cerbydau
Bydd Trenau TrC yn etifeddu fflyd o unedau diesel lluosog Dosbarthau 142, 143, 150, 153, 158 a 175 a cherbydau Marc 3 oddi wrth Drenau Arriva Cymru.
Fflyd etifeddol
Dosbarth | Llun | Math | Cyflymder uchaf | Cerbyd | Nifer | Llwybrau Weithredwyd | Adeiladwyd | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
mph | kph | |||||||
Stoc locomotif tynnu | ||||||||
67 | Loco | 125 | 200 | – | 3 | Premier Service: Caergybi-Caerdydd Canolog
|
1999–00 | |
Mark 3 | Coach | 12 | 1975–88 | |||||
DVT | 3 | 1988 | ||||||
Unedau diesel lluosog | ||||||||
142 Pacer | DMU | 75 | 121 | 2 | 15 | Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd | 1985–87 | |
143 Pacer | DMU | 75 | 121 | 2 | 15 | Llinellau'r Cymoedd a llwybrau lleol Caerdydd |
1985–86 | |
150/2 Sprinter | DMU | 75 | 121 | 2 | 36 |
|
1986–87 | |
153 Super Sprinter | DMU | 75 | 121 | 1 | 8 |
|
1987–88 | |
158/0 Express Sprinter | DMU | 90 | 140 | 2 | 24 |
|
1990–91 | |
175/0 & 175/1 Coradia | DMU | 100 | 161 | 2 | 11 | Gwasanaethau rhanbarthol rhwng Gogledd Orllewin Lloegr, De a Gogledd Cymru |
1999–01 | |
3 | 16 |
Fflyd y dyfodol
Disgwylir y bydd y fflyd cyfan a etifeddwyd gan Drenau TrC yn cael eu disodli erbyn 2023, gyda hanner y trenau newydd i'w cynhyrchu gan CAF yn ei ffatri yn Llanwern.[12]
Bydd cyfanswm o 77 uned lluosog diesel CAF Civity yn cael eu hadeiladu. Bydd yna hefyd nifer o unedau diesel lluosog ail-ddefnydd yn ymuno â'r fflyd, gyda phum Nodyn:Brcs o Great Western Railway (ar sail tymor byr yn unig) a deuddeg Dosbarth 170/2s o Greater Anglia.[13]
Hefyd, mae cyfanswm o unedau 35 Stadler FLIRT wedi'u harchebu; 24 tri-dull ac un ar ddeg diesel-trydan. Mae 36 trenau-tram Stadler Citylink tri cerbyd hefyd wedi ei archebu.
Mae pump uned Dosbarth 230 o hefyd wedi ei archebu o Vivarail, a mae deuddeg cerbyd Marc 4 i ymuno â'r fflyd o London North Eastern Railway ar ôl cael ei hadnewyddu.
Dosbarth | Llun | Math | Cyflymder Uchaf | Cerbydau | Nifer | Llwybrau Weithredir | Adeiladwyd | Mewn Gwasanaeth | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
mph | kph | ||||||||
Stoc locomotif tynnu | |||||||||
Mark 4 | Coach | 140 | 225 | – | 12 | Gwasanaethau rhwng Gogledd a De Cymru[14] |
1989–92 | 2019 | |
Unedau diesel lluosog | |||||||||
153 Super Sprinter[15] | DMU | 75 | 121 | 1 | 5 | Llwybrau cefn gwlad yng Ngorllewin Cymru | 1987–88 | 2019 | |
170/2 Turbostar | DMU | 100 | 161 | 2 | 4 |
|
1999–02 | 2019 | |
3 | 8 | ||||||||
i'w gadarnhau Civity[16] | DMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 2 | 51 |
|
i'w gadarnhau | 2021–23 | |
3 | 26 | ||||||||
Unedau lluosog diesel-trydan | |||||||||
230 D-Train | DEMU | 60 | 97 | 3 | 5 | Llinell Dyffryn Conwy , Llinell Borderlands, Caer-Crewe[17][18] | TBC | 2019 | |
TBC FLIRT | DEMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 4 | 11 | Gwasanaethau yn Ne-Ddwyrain Cymru |
TBC | 2022 | |
Unedau lluosog deu-fodd | |||||||||
769 Flex | BMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 4 | 5 | I'w gadarnhau | TBC | 2018[nb 1] | |
Unedau lluosog tri-modd | |||||||||
(i'w gadarnhau) FLIRT | TMU | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 3 | 7 | Gwasanaethau rhwng Rhymni/Coryton i Benarth/Ynys y Barri/Pen-y-bont ar Ogwr trwy Fro Morgannwg | i'w gadarnhau | 2023 | |
4 | 17 | ||||||||
Trenau-tram | |||||||||
TBC Citylink | Tram-train | i'w gadarnhau | i'w gadarnhau | 3 | 36 | Gwasanaethau i Dreherbert, Aberdar a Merthur Tudful | i'w gadarnhau | 2022–23 |
Nodiadau
- Class 319/4 units were initially built between 1987 and 1988
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.