From Wikipedia, the free encyclopedia
Mabolgamp gymnastaidd sy'n defnyddio trampolîn yw trampolinio.[1] Mae cystadleuaeth yn cynnwys un symudiad gorfodol ac un symudiad dewisol, a'r enillwyr yn perfformio symudiad dewisol arall. Ceir cyffwrdd â'r trampolîn dim ond 10 gwaith mewn symudiad. Caiff cystadleuwyr eu sgorio ar sail anhawster, perfformiad, a ffurf.[2]
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth chwaraeon, chwaraeon olympaidd |
---|---|
Math | Gymnasteg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd y fabolgamp fodern ym 1936 gan yr Americanwr George Nissen. Bu'r gystadleuaeth answyddogol gyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1947, a'r pencampwriaethau swyddogol cyntaf ym 1954. Daeth yn un o chwaraeon y Gemau Holl-Americanaidd ym 1955. Bu'r gystadleuaeth agored ryngwladol gyntaf yng Ngorllewin yr Almaen ym 1962, a'r bencampwriaeth ryngwladol gyntaf yn Lloegr ym 1964. Sefydlwyd y Gymdeithas Drampolîn Ryngwladol yn sgil y bencampwriaeth honno. Daeth trampolinio yn un o'r chwaraeon Olympaidd yn 2000.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.