Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Crysau Duon yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd.
Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yn ystod taith 1905-06 i Ynysoedd Prydain gan y tîm cenedlaethol cyntaf o Seland Newydd. Maent yn gwisgo yn gyfangwbl mewn du ar y maes chwarae, gyda rhedynnen arian ar y crys. Cyn dechrau'r gêm mae'n draddodiad fod y tîm yn perfformio'r haka, sef dawns ryfel draddodiadol y Maori. Mae'n medru bod yn brofiad i ddychryn gwrthwynebwyr.
Mae'r Crysau Duon bob amser ymhlith y timau cryfaf yn y byd, a maen nhw wedi ennill Cwpan Rygbi'r Byd tair waith, yn 1987, 2011 a 2015, y rhif fwyaf o deitlau yn hanes y gystadleuaeth. Maent yn cystadlu yn flynyddol yn erbyn Awstralia a De Affrica ym Mhencampwriaeth y Tair Gwlad, a'r Crysau Duon enillodd y gystadleuaeth hon yn 2005.