Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru oedd yr undeb llafur oedd yn gwarchod buddiannau gweithwyr yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
Sefydlwyd yr Undeb yn 1874 mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ymysg y chwarelwyr, yn enwedig gweithwyr Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig. Ar 27 Ebrill y flwyddyn honno cynhaliwyd cyfarfod yn y Queen's Head, Caernarfon, a lansiwyd yr undeb. Apwyntiwyd W.J. Parry, Coetmor, Bethesda yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Roedd nifer o berchenogion y chwareli yn amharod i dderbyn bodolaeth yr undeb. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan o Chwarel Dinorwig ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb. Dilynwyd hyn gan anghydfod yn Chwarel y Penrhyn, a fu'n fuddugoliaeth fawr i'r gweithwyr a'r undeb newydd. Cytunodd Barwn Penrhyn i dderbyn pwyllgor i negodi ar ran y gweithwyr, ac ymddiswyddodd tri o'r rheolwyr.
Roedd yr undeb gryfaf yn chwareli ardal Bethesda a Llanberis; ychydig o ddylanwad oedd ganddo yn Nyffryn Nantlle ac ardal Corris. Erbyn Mai 1878 roedd 8,368 o aelodau, ond erbyn 1894 roedd y nifer wedi gostwng i 1,652. Effeithiwyd yr undeb yn ddifrifol gan yr helyntion yn Chwarel y Penrhyn yn 1896-7 ac wedyn streic fawr 1900-1903, gan nad oedd adnoddau'r undeb yn ddigon i dalu tâl streic digonol am gyfnod cyn hired. Llyncwyd yr undeb gan Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (TGWU) yn y 1950au.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/Baner_Undeb_Chwarelwyr_Gogledd_Cymru.jpg/640px-Baner_Undeb_Chwarelwyr_Gogledd_Cymru.jpg)