Wicipedia:Ar y dydd hwn/Gorffennaf
From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Canada; Diwrnod annibyniaeth Rwanda (1962); Dydd Gŵyl Julius ac Aaron
Dydd Gŵyl Gwenafwy
- 1690 (334 blynedd yn ôl) – ymladdwyd Brwydr y Boyne rhwng Wiliam III, brenin Lloegr, a'i ragflaenydd Iago II, ar lan Afon Boyne yn Iwerddon
- 1804 (220 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelydd Ffrengig George Sand (Amantine Lucile Aurore Dupin) ym Mharis
- 1847 (177 blynedd yn ôl) – cyflwynwyd Brad y Llyfrau Gleision i'r llywodraeth
- 1915 (109 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Eingl-Gymreig Alun Lewis yn Aberdâr
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – bu farw Alwyn Jones a George Taylor, ymgyrchwyr yn enw Mudiad Amddiffyn Cymru, yn Abergele yn dilyn ffrwydriad
- 1999 (25 blynedd yn ôl) – datganolwyd rhai pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
- 2016 (8 mlynedd yn ôl) – Mae Cymru'n ennill y gêm yn erbyn Gwlad Belg 3-1 yn y Pencampwriaeth UEFA Euro 2016
2 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Euddogwy
- 437 (1587 blynedd yn ôl) – Valentinian III yn dechrau teyrnasu fel Ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin.
- 1489 (535 blynedd yn ôl) – ganwyd Thomas Cranmer, archesgob Caergaint (m. 1556)
- 1523 (501 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys a chrewyd system o feirdd yn ôl eu statws
- 1644 (380 blynedd yn ôl) – Rhyfel Cartref Lloegr: Brwydr Marston Moor
- 1778 (246 blynedd yn ôl) – bu farw Jean-Jacques Rousseau, athronydd Ffrengig, 66 oed.
3 Gorffennaf: Gŵyl Mabsant Peblig; Diwrnod annibyniaeth Belarws (1944)
- 1088 (936 blynedd yn ôl) – lladdwyd y Norman Robert o Ruddlan gan bicellau gwŷr Gruffudd ap Cynan ger Pen y Gogarth
- 1423 (601 blynedd yn ôl) – ganwyd Louis XI, brenin Ffrainc
- 1868 (156 blynedd yn ôl) – yn Rhyfel Cartref America, enillwyd Brwydr Gettysburg gan fyddin yr Undeb; ystyrir hyn yn drobwynt yn y rhyfel
- 1883 (141 blynedd yn ôl) – ganwyd Franz Kafka, awdur yn yr iaith Almaeneg, yn Mhrag
- 1938 (86 blynedd yn ôl) – torrwyd record cyflymder y byd ar gyfer locomotifau stêm gan y Mallard, yn ymyl Grantham
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyflwynydd teledu Siân Lloyd ym Maesteg
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd Abertawe yn ddinas
- 1776 (248 blynedd yn ôl) – enillodd Unol Daleithiau America eu hannibyniaeth oddi wrth Brydain
- 1807 (217 blynedd yn ôl) – ganwyd Giuseppe Garibaldi, gwladgarwr a milwr
- 1842 (182 blynedd yn ôl) – ganwyd Catherine Prichard (Buddug), ffeminsist, a'r bardd a sgwennodd y gerdd ‘O na byddai'n haf o hyd'
- 1894 (130 blynedd yn ôl) – ganwyd William Ambrose Bebb, hanesydd, llenor a gwleidydd
- 1899 (125 blynedd yn ôl) – defnyddiwyd y Cledd Mawr am y tro cyntaf yng Ngorsedd y Beirdd; cynlluniwyd gan Hubert von Herkomer
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – bu farw'r cemegydd a'r radiolegydd Marie Curie
5 Gorffennaf Dydd Gŵyl Sant Cennydd
- 1755 (269 blynedd yn ôl) – ganwyd Sarah Kemble, yn hwyrach Sarah Siddons, actores, yn Aberhonddu
- 1946 (78 blynedd yn ôl) – arddangoswyd y bicini ym Mharis am y tro cyntaf
- 1948 (76 blynedd yn ôl) – sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – disodlwyd Prif Weinidog etholedig cyntaf Pacistan, Zulfiqar Ali Bhutto, pan gipiodd y fyddin awdurdod dan arweiniad Muhammad Zia ul-Haq
6 Gorffennaf: 1975 — Diwrnod Annibyniaeth Comores.
- 1415 (609 blynedd yn ôl) – llosgwyd yr athronydd a'r diwygiwr crefyddol Tsiecaidd Jan Hus wrth y stanc
- 1450 (574 blynedd yn ôl) – bu farw y milwr Mathau Goch
- 1821 (203 blynedd yn ôl) – ganwyd Henry Hussey Vivian, diwydiannwr a gwleidydd (m. 1894)
- 1960 (64 blynedd yn ôl) – bu farw Aneurin Bevan
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – priododd y gantores o Sweden Agnetha Fältskog gyda Björn Ulvaeus
7 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Ynysoedd Solomon (1978)
- 1860 (164 blynedd yn ôl) – Ganwyd y cyfansoddwr Gustav Mahler
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – Dechreuodd Brwydr Coed Mametz, rhan o Frwydr Cyntaf y Somme
- 1962 (62 blynedd yn ôl) – Bu farw y dramodydd D. T. Davies
- 2005 (19 blynedd yn ôl) – Lladdwyd 56 o bobl ac anafwyd 700 mewn ymosodiad terfysgol ar Lundain.
- 1557 (467 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Ysgol Friars, Bangor, un o ysgolion hynaf Cymru
- 1721 (303 blynedd yn ôl) – bu farw Elihu Yale, a roes ei enw i Brifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau; fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys San Silyn, Wrecsam
- 1836 (188 blynedd yn ôl) – ganwyd Joseph Chamberlain, gwleidydd
- 1859 (165 blynedd yn ôl) – bu farw John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), bardd ac emynydd
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – cychwynnodd Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd
9 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth De Swdan (2011)
- 68 (1956 blynedd yn ôl) – bu farw Nero, ymerawdwr Rhufain
- 1786 (238 blynedd yn ôl) – bu farw John Ystumllyn, un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru y ceir cofnod o'u hanes.
- 1787 (237 blynedd yn ôl) – Ganwyd y bardd a'r golygydd Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo) yng Nghaerdydd
- 1932 (92 blynedd yn ôl) – Bu farw'r bardd Pedrog (John Owen Williams); bu'n Archdderwydd o 1928 hyd 1932
- 2002 (22 blynedd yn ôl) – Bu farw'r actor Americanaidd Rod Steiger
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – Bu farw'r awdur a'r ysgolhaig Enid Pierce Roberts; ei maes oedd llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif
10 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth y Bahamas (1973)
- 138 (1886 blynedd yn ôl) – bu farw Hadrian, ymerawdwr Rhufain
- 1099 (925 blynedd yn ôl) – bu farw'r marchog Sbaenaidd El Cid (Rodrigo Díaz de Vivar)
- 1557 (467 blynedd yn ôl) – Robert Recorde yn defnyddio'r hafalnod = am y tro cyntaf
- 1819 (205 blynedd yn ôl) – cyfarfu Gorsedd y Beirdd am y tro cyntaf mewn eisteddfod genedlaethol, sef Eisteddfod Caerfyrddin 1819
- 1871 (153 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelydd Ffrengig Marcel Proust
- 1991 (33 blynedd yn ôl) – daeth Boris Yeltsin yn Arlywydd cyntaf Ffederasiwn Rwsia
11 Gorffennaf: Dynodwyd Cymru'n 'Wlad Fasnach Deg' gynta'r byd.
- 1274 (750 blynedd yn ôl) – ganwyd Robert I (Robert de Brus), brenin yr Alban;
- 1811 (213 blynedd yn ôl) – ganwyd William Robert Grove, dyfeisiwr y gell danwydd, yn Abertawe
- 1905 (119 blynedd yn ôl) – 119 o löwyr yn marw mewn ffrwydrad yng ngwaith glo'r National yn Wattstown, y Rhondda Fach
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – bu farw George Gershwin, cyfansoddwr
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – bu farw Syr Laurence Olivier, actor
12 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth São Tomé a Príncipe (1975) a Ciribati (1979); Dydd Gŵyl Dogfan
- 1543 (481 blynedd yn ôl) – priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Catrin Parr
- 1598 (426 blynedd yn ôl) – lladdwyd John Jones (sant) yn Southwark drwy grogi, diberfeddu a chwarteru, ar gyhuddiad o fod yn offeiriad Catholig
- 1910 (114 blynedd yn ôl) – bu farw Charles Rolls, cyd-syflaenydd y cwmni Rolls-Royce, mewn damwain awyren
- 1941 (83 blynedd yn ôl) – arwyddodd Prydain a'r Undeb Sofietaidd gytundeb i gynorthwyo'i gilydd yn erbyn yr Almaen
- 1947 (77 blynedd yn ôl) – ganwyd Gareth Edwards, chwaraewr rygbi byd-enwog
- 1527 (497 blynedd yn ôl) – Ganwyd John Dee, mathemategydd, alcemydd ac athronydd
- 1734 (290 blynedd yn ôl) – Bu farw Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc
- 1942 (82 blynedd yn ôl) – Ganwyd Hywel Gwynfryn, cyflwynydd radio
- 1954 (70 blynedd yn ôl) – Bu farw'r arlunydd Fecsicanaidd Frida Kahlo
- 1972 (52 blynedd yn ôl) – Agorwyd Rheilffordd Llyn Tegid hyd at Bentrepiod
14 Gorffennaf: diwrnod y Bastille (Gŵyl genedlaethol Ffrainc); Gŵyl Sant Dogmael
- 1789 (235 blynedd yn ôl) – cipiwyd carchar y Bastille yn y Chwyldro Ffrengig
- 1842 (182 blynedd yn ôl) – ganwyd William Abraham (Mabon)
- 1877 (147 blynedd yn ôl) – bu farw Richard Davies (Mynyddog) yn 44 oed; bardd ac awdur geiriau "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg", "Myfanwy" a phennill gwreiddiol "Sosban Fach"
- 1892 (132 blynedd yn ôl) – agoriad swyddogol Llyn Llanwddyn (Llyn Fyrnwy); boddwyd 2 gapel, 3 tafarn, 10 fferm a 37 o gartrefi gan Lerpwl
- 1966 (58 blynedd yn ôl) – etholwyd Gwynfor Evans yn aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru.
- 1573 (451 blynedd yn ôl) – Ganwyd y pensaer Inigo Jones yn Llundain
- 1761 (263 blynedd yn ôl) – Ganwyd Walter Davies (Gwallter Mechain), bardd a golygydd – ac un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd
- 1799 (225 blynedd yn ôl) – Darganfuwyd Carreg Rosetta gan Pierre-François Bouchard ym mhorthladd Rossetta ('Rashid' heddiw) yn yr Aifft
- 1858 (166 blynedd yn ôl) – Ganwyd y swffraget Seisnig Emmeline Pankhurst
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – Ganwyd Iris Murdoch, nofelydd o Iwerddon, ac awdur Under the Net
- 1911 (113 blynedd yn ôl) – ganwyd y ddawnswraig a'r seren ffilmiau Ginger Rogers
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – taniwyd y bom atomig am y tro cyntaf erioed mewn anialwch ger Los Alamos, Mecsico Newydd
- 1949 (75 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actores Angharad Rees yng Nghaerdydd
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – lawnsiwyd llong ofod Apollo 11
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – ganwyd y pêl-droediwr Gareth Bale yng Nghaerdydd
17 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Slofacia (1992)
- 1203 (821 blynedd yn ôl) – cipiwyd Caergystennin yn y Bedwaredd Groesgad
- 1790 (234 blynedd yn ôl) – rhoddwyd patent i Thomas Saint ar gyfer peiriant gwnïo, y cyntaf o'i bath
- 1860 (164 blynedd yn ôl) – bu farw'r nyrs Betsi Cadwaladr, fu'n gweithio yn Balaclava
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – hawliodd Indonesia Dwyrain Timor fel "ein 27fed rhanbarth" a lladdwyd dros 100,000 o bobl
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – cynhaliwyd Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf
- 1807 (217 blynedd yn ôl) – bu farw'r mathemategydd Thomas Jones
- 1908 (116 blynedd yn ôl) – priododd J. Glyn Davies, Lerpwl, gyda Hettie Williams o Geinewydd; ef oedd awdur Cerddi Huw Puw a llawer o gerddi eraill am y môr.
- 1918 (106 blynedd yn ôl) – ganwyd y gwladweinydd Nelson Mandela
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – agorwyd Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – ganwyd y cerddor Gruff Rhys yn Hwlffordd, Sir Benfro
- 2022 (2 flynedd yn ôl) – cafwyd y diwrnod poethaf ers cadw cofnodion tywydd, a hynny ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, gyda thymheredd o 37.1C
- 1838 (186 blynedd yn ôl) – bu farw Christmas Evans, un o bregethwyr mawr y Bedyddwyr
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – ganwyd Ganwyd Enoch Rowland Jones canwr a chwaraewr iwffoniwm, yng Ngwauncaegurwen, Dyffryn Aman
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – ganwyd Angharad Tomos, awdur Cymraeg
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – ganwyd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban
20 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Colombia (1810)
- 1843 (181 blynedd yn ôl) – Ymosodiad gan Rebeca a'i merched ar Dollborth Rhyd Y Pandy, Treforys
- 1944 (80 blynedd yn ôl) – Cafwyd ymgais gan rai o uwch-swyddogion byddin yr Almaen i ladd Adolf Hitler a chipio grym: Cynllwyn 20 Gorffennaf
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – Apollo 11 yn glanio ar y lleuad a Neil Armstrong yn camu allan
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – Bu farw David Davies (Llandinam), 71, diwydiannwr
21 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Gwlad Belg
- 1403 (621 blynedd yn ôl) – Brwydr Amwythig rhwng lluoedd Harri IV a Harri Percy
- 1773 (251 blynedd yn ôl) – bu farw Howel Harris, un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd
- 1899 (125 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelydd Americanaidd Ernest Hemingway
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – agoriad swyddogol Argae Dyffryn Elan, pan foddwyd capel, eglwys, ysgol a nifer o ffermydd er mwyn cyflenwi dŵr i Birmingham.
- 2005 (19 blynedd yn ôl) – ffrwydrodd pedwar bom ar system cludiant cyhoeddus Llundain, yn dilyn cyfres arall o ffrwydradau bythefnos ynghynt
22 Gorffennaf: Dydd gŵyl Mair Fadlen
- 1298 (726 blynedd yn ôl) – Brwydr Falkirk rhwng lluoedd Edward I a William Wallace
- 1378 (646 blynedd yn ôl) – llofruddiwyd Owain Lawgoch etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – bu farw Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf Cymru
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – diwedd Brwydr Kursk, y frwydr danc fwyaf erioed, rhwng byddin yr Almaen a byddin yr Undeb Sofietaidd yn Rwsia
- 1966 (58 blynedd yn ôl) – boddwyd 18 o bobl mewn damwain fferi ar y Mawddach
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – ganwyd Rhys Ifans, actor, yn Hwlffordd, Sir Benfro
- 776 CC – Cynhaliwyd y gemau Olympaidd cyntaf i gael eu cofnodi yn Olympia, Gwlad Groeg
- 1745 (279 blynedd yn ôl) – glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) ar ynys Eriskay yn yr Alban i geisio ennill brenhiniaeth yr Alban i'w dad
- 1955 (69 blynedd yn ôl) – ailagorwyd Rheilffordd Ffestiniog o Borthmadog hyd at Boston Lodge
- 1951 (73 blynedd yn ôl) – bu farw Philippe Pétain, milwr a gwleidydd Ffrengig
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – diwrnod cyntaf Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd, gyda 13,971 o bobl yn ymweld â hi.
- 1783 (241 blynedd yn ôl) – ganwyd Simón Bolívar, arwr cenedlaethol ym Molifia, Colombia, Ecwador, Feneswela a Pheriw
- 1802 (222 blynedd yn ôl) – ganwyd Alexandre Dumas, awdur Ffrengig
- 1824 (200 blynedd yn ôl) – ganwyd R. J. Derfel, awdur a gwladgarwr a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru
- 1895 (129 blynedd yn ôl) – ganwyd Robert Graves, bardd a nofelydd Sesisnig
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – dychwelodd criw Apollo 11 i'r Ddaear, wedi ymweliad â'r Lleuad
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – bu farw yr actor Peter Sellers yn Llundain
25 Gorffennaf: Diwrnod cenedlaethol Galisia, Gŵyl Sant Cristoffer
- 306 (1718 blynedd yn ôl) – cyhoeddwyd Cystennin I yn ymerawdwr Rhufain
- 1201 (823 blynedd yn ôl) – bu farw Gruffudd ap Rhys II, tywysog Deheubarth
- 1603 (421 blynedd yn ôl) – coronwyd Iago VI, brenin yr Alban yn Iago I, brenin Lloegr
- 1895 (129 blynedd yn ôl) – ganwyd Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru
26 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Liberia (1847) a'r Maldives (1965)
- 1856 (168 blynedd yn ôl) – ganwyd y dramodydd George Bernard Shaw yn Nulyn
- 1908 (116 blynedd yn ôl) – ganwyd Salvador Allende, arlywydd Chile, yn Valparaíso
- 1952 (72 blynedd yn ôl) – bu farw Eva Perón, cyn-lywydd yr Ariannin, yn 33 oed yn Buenos Aires
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athletwraig Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – ganwyd yr athletwraig Olivia Breen, enillydd dwy fedal Aur yng Ngemau'r Gymanwlad (2018 a 2022).
- 1593 (431 blynedd yn ôl) – merthyrwyd yr offeiriad William Davies yng Nghastell Biwmares
- 1841 (183 blynedd yn ôl) – bu farw Mikhail Lermontov, bardd a nofelydd yn yr iaith Rwseg
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – bu farw yr arlunydd Penry Williams yn Rhufain
- 1921 (103 blynedd yn ôl) – bu farw y llenor John Jones (Myrddin Fardd) yn Chwilog
- 1967 (57 blynedd yn ôl) – pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 (Hughes Parry)
28 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Samson
- 388 (1636 blynedd yn ôl) – bu farw'r ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig, testun y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig
- 1750 (274 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Johann Sebastian Bach
- 1844 (180 blynedd yn ôl) – ganwyd Gerard Manley Hopkins, bardd yn yr iaith Saesneg
- 1865 (159 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd y fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i Wladfa Patagonia Borth Madryn, ar long y Mimosa
- 1833 (191 blynedd yn ôl) – bu farw William Wilberforce, dyngarwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i gael gwared â chaethfasnach.
- 1890 (134 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Vincent van Gogh
- 1905 (119 blynedd yn ôl) – ganwyd Dag Hammarskjöld, diplomydd Swedaidd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- 1921 (103 blynedd yn ôl) – ganwyd yr hanesydd Aled Eames yn Llandudno
- 1933 (91 blynedd yn ôl) – sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth a sicrhaodd brisiau teg i'r ffermwyr
- 1994 (30 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Cymreig William Mathias a'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
30 Gorffennaf: Diwrnod annibyniaeth Fanwatw (1980)
- 1818 (206 blynedd yn ôl) – ganwyd Emily Brontë, nofelydd
- 1863 (161 blynedd yn ôl) – ganwyd Henry Ford, sylfaenydd y Cwmni Modur Ford
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – ganwyd Henry Moore, cerflunydd, yn Castleford, Gorllewin Swydd Efrog
- 1930 (94 blynedd yn ôl) – enillwyd Cwpan y Byd gan Wrwgwái ym Montevideo: hon oedd y gystadleuaeth gyntaf erioed o Gwpan Pêl-droed y Byd i'w chynnal.
- 1995 (29 blynedd yn ôl) – llofruddiwyd Sophie Hook, merch 7 oed, yng Ngogledd Cymru
31 Gorffennaf: Gŵyl mabsant Garmon
- 1886 (138 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr Franz Liszt
- 1893 (131 blynedd yn ôl) – sefydlwydd Conradh na Gaeilge, cymdeithas hybu'r Wyddeleg, yn Nulyn
- 1917 (107 blynedd yn ôl) – bu farw'r prifardd a'r milwr Hedd Wyn yn 30 oed ym Mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdures J. K. Rowling
- 1973 (51 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Daniel Evans yn y Rhondda