Wicipedia:Babel
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae nodion iaith defnyddiwr yn Nodyn sy'n ymwneud ag iaith y Defnyddiwr ac a leolir ar ei Dudalen defnyddiwr. Dechreuodd y syniad hwn ar Gomin Wikimedia ac yna Meta-Wiki a rhai wicïau eraill gan gynnwys Wicipedia. I roi'r hysbysiad hwn ar eich tudalen defnyddiwr, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
- Dechreuwch gyda bresus (bracedi) {{Babel|
- Yna ychwanegwch un o'r codau dilynol am bob iaith rydych chi'n siarad, a'u gwahanu gyda | (peipen), lle mai xx yw'r cod ar gyfer yr iaith:
- xx-1 am allu sylfaenol - digon i ddeall ac ysgrifennu cynnwys neu gwestiynau syml yn yr iaith hon.
- xx-2 am allu canolraddol - digon i olygu a thrafod.
- xx-3 am lefel uwch - gallwch ysgrifennu yn yr iaith hon gyda dim problemau, efallai bydd 'na ychydig o gamgymeriadau.
- xx-4 am lefel 'bron-brodorol' - er nad yw hi ddim eich iaith gyntaf, mae'ch gallu yn ymylu ar allu siaradwr brodorol.
- xx-5 am hyfedredd proffesiynol.
- xx (dim cysylltnod neu rif) am siaradwyr brodorol sy'n defnyddio'r iaith bob dydd sydd â gafael da ynddi, gan gynnwys ymadroddion llafar a phriod-ddulliau.
- I orffen, ceuwch y bracedi: }}
Felly, er enghraifft, bydd {{Babel|cy|de-1}} yn dangos siaradwr brodorol y Gymraeg sydd â gwybodaeth sylfaenol o'r Almaeneg.
Bydd {{Babel|sv|en-3|fr-2|es-1}} yn dangos siaradwr brodorol y Swedeg, gyda gwybodaeth uwch o'r Saesneg, gwybodaeth ganolradd o'r Ffrangeg, a gwybodaeth sylfaenol o Sbaeneg.
Gallwch hefyd ychwanegu iaith unigryw gyda'r fformat o {{Defnyddiwr xx-1}}.
Mae'r nodion hyn yn eich hychwanegu at gategori cysylltiol gyda'ch lefel o ddealltwriaeth, ac i'r categori cyffredinol ar gyfer yr iaith honno.
Er mwyn dod o hyd i rywun sy'n siarad iaith benodol, gweler Ieithoedd defnyddwyr, a dilyn y dolenni. Fel arfer, defnyddir codau dau a thair llythyren o ISO 639, ond gweler y rhestr hon am ganllaw cyfun (yn Saesneg).
Gallwch ymestyn y sustem hon gan greu nodion ar gyfer eich iaith chi. Crëwyd categorïau ar gyfer bron pob un iaith yn barod sydd â fersiwn o Wicipedia gyda thros gant o erthyglau; mae jyst angen labeli arnyn nhw! Awgrymir ichi gopïo'r fersiynau'r Saesneg neu'r rhai Ffrangeg wrth ymestyn hyn, gan fod llawer o'r ieithoedd a restrir yma'n anghyflawn.