Y Goleuedigion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pwnc yr erthygl hon yw'r damcaniaethau cydgynllwyniol modern. Am y gymdeithas wreiddiol, gweler Goleuedigion Bafaria. Am ddefnyddiau eraill, gweler Illuminati.
Mae nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol modern yn honni bod gan grŵp o'r enw y Goleuedigion neu'r Illuminati ddylanwad a rheolaeth eang dros faterion y byd gyda'r nod o sefydlu Trefn Byd Newydd. Mae'r damcaniaethau hyn yn tarddu o Oleuedigion Bafaria, cymdeithas gyfrinachol a sefydlwyd yn ystod yr Oleuedigaeth. Mae'r damcaniaethau'n dadlau taw parhâd neu atgyfodiad o'r gymdeithas hon yw'r Goleuedigion modern. Caiff nifer o'r damcaniaethau hyn eu cysylltu â damcaniaethau eraill am grwpiau a honnir i reoli'r byd, gan gynnwys y Seiri Rhyddion, yr Iddewon, Marcswyr, Cynhadledd Bilderberg, y Council on Foreign Relations, a Bohemian Grove.