Groeslon
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llandwrog, Gwynedd, Cymru, yw Y Groeslon[1] neu Groeslon[2] ( ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle gerllaw priffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Phen-y-groes, ac ychydig i'r gorllewin o bentref Carmel a bryn Moel Tryfan. Hyd yn ddiweddar roedd yr A487 yn mynd trwy'r pentref, ond yn 2002 agorwyd ffordd osgoi newydd.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.07°N 4.28°W |
Cod OS | SH472558 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Cau
Tyfodd y Groeslon fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi yn yr ardal. Datblygodd y pentref yn sgil agor gorsaf reilffordd yr LMS yn 1867. O'r Groeslon roedd y dramodydd John Gwilym Jones a'r bardd Tom Huws yn enedigol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]