Y Môr Baltig
môr yng Ngogledd Ewrop / From Wikipedia, the free encyclopedia
Môr rhwng Llychlyn a gwledydd cyfandir Ewrop yw'r Môr Baltig neu'r Môr Llychlyn, sy'n gangen o Gefnfor yr Iwerydd. Mae cyswllt o Fôr y Gogledd i'r Môr Baltig trwy Skagerrak a Kattegat, dau gulfor rhwng Denmarc, Norwy a Sweden. Mae ei harwynebedd yn yn 413,000 km² ac mae'n cynnwys 21,600 km³ o ddŵr. Gyda dyfnder cyfartalog o 52m, sy'n ymestyn i 459m ar ei ddyfnaf, mae'n fôr bas iawn. Yn ogystal dim ond 1% o gynnwys y dŵr sy'n halen yn y môr hwn, sy'n golygu ei fod yn llai hallt na moroedd eraill.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Math | môr canoldir, môr ymylon, inland sea |
---|---|
Enwyd ar ôl | dwyrain, gorllewin |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor y Byd |
Gwlad | Sweden, y Ffindir, Rwsia, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, yr Almaen, Denmarc |
Arwynebedd | 377,000 ±1000 km² |
Yn ffinio gyda | Øresund, Great Belt, Little Belt |
Cyfesurynnau | 58°N 20°E |
Cau