môr From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Môr Coch[1] yn fraich hir gul o Gefnfor India sy'n gorwedd rhwng gogledd-ddwyrain Affrica a gorynys Arabia yng Ngorllewin Asia. Yn ddaearegol mae'n rhan o Ddyffryn y Rhwyg Mawr (Great Rift Valley). Ei arwynebedd yw 438,000 km² (169,076 milltir²).
Math | môr |
---|---|
Enwyd ar ôl | coch |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor India |
Gwlad | Yr Aifft, Sawdi Arabia, Swdan, Jibwti, Eritrea, Iemen, Israel, Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 445,816 km² |
Yn ffinio gyda | Gogledd Affrica, Y Dwyrain Canol |
Cyfesurynnau | 22°N 38°E |
Mae'n ymestyn tua 2400 km (1490 milltir) i'r gogledd-ogledd-orllewin o gulfor Bab al Mandab rhwng Gwlff Aden a'r Môr Coch ei hun, sy'n ddarn bach o fôr rhwng Bab al Mandab yn Jibwti a phwynt mwyaf gorllewinol yr Iemen. Yn y gogledd fe'i cysylltir â'r Môr Canoldir gan Culfor Suez a Chamlas Suez. Yn ei ben gogleddol hefyd mae Gwlff Aqaba yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain rhwng Sinai a Sawdi Arabia ac mae gan Israel a Gwlad Iorddonen stribyn cul o dir yn ei ben eithaf.
Ar ei lannau mae arfordiroedd yr Aifft, Swdan, Eritrea a Jibwti yn Affrica ac Iemen, Sawdi Arabia a'r Sinai (yn yr Aifft) yng Ngorllewin Asia.
Yn hanesyddol mae'r Môr Coch wastad wedi bod yn sianel pwysig i fasnach forol ond tyfodd yn gyflym mewn pwysigrwydd yn sgîl agor Camlas Suez yn 1869.
Yr Eifftwyr Hynafol oedd y cyntaf i geisio archwilio'r Môr Coch. Yn y Beibl mae hanes yr Exodus yn adrodd sut y bu i Moses arwain yr Israeliaid drwy ddyfroedd y môr (cyfeiriad at y Môr Pabwyr hynafol, ar safle Culfor Suez heddiw, efallai) a boddi o fyddin Pharo ynddo.
Fodd bynnag, morwr Groegaidd o'r enw Hippalus a roddodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol fel petai i'r Môr Coch trwy ei gyfrol ar fordaith i gyffiniau Eritrea; agorwyd masnach eang a buddiol rhwng Ewrop ac Asia mewn canlyniad. Am ganrifoedd bu morwyr Arabaidd yn hwylio'r môr yn eu dhows, rhwng Affrica ac Arabia ac rhwng yr Aifft ac is-gyfandir India.
Bu'n rhaid aros tan y 15g i Ewrop ddechrau cymryd diddordeb yn y môr. Yn 1798 gorchmynodd Ffrainc i Napoleon Bonaparte oresgyn yr Aifft a dwyn y Môr Coch. Er iddo fethu yn ei ymdrech arweiniodd hynny i'r peirianydd J.B. Lepere ail edrych ar gynlluniau i adeiladu camlas, syniad a wyntyllwyd am y tro cyntaf yn oes y Pharos. Agorwyd Camlas Suez yn 1869. Y pryd hynny rhannai Prydain, Ffrainc a'r Eidal wersyllfaoedd masnach yno.
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd bu'r ardal yn destun ymgiprys am ddylanwad rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd; yn y cyfamser tyfodd maint y drafnidiaeth llongau olew yn sylweddol. Fodd bynnag, mewn canlyniad i'r Rhyfel Chwech Diwrnod caewyd Camlas Suez o 1967 hyd 1975 a lleihaewyd y drafnidiaeth. Byth ers hynny nid yw Suez a'r Môr Coch wedi adfer eu lle yn wyneb cystadleuaeth o lwybr forol Penrhyn Gobaith Da.
Mae'r trefi a dinasoedd ar lan y Môr Coch yn cynnwys:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.