From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal yng ngogledd Caerdydd ydy'r Mynydd Bychan (Saesneg: Heath). Mae'r rhan fwyaf o dai yr ardal yn rhai led-wahân, dosbarth canol, a adeiladwyd yn ystod y 1920au–1950au. Adeiladwyd Ysbyty Athrofaol Cymru ar hen safle Coedwig Mynydd Bychan yn yr 1960au, felly mae'r rhanfwyaf o lefydd gwyrdd yr ardal wedi diflannu. Mae Parc Mynydd Bychan wedi goroesi fodd bynnag, gyda choed a glaswellt, cyfleusterau chwaraeon a rheilffordd stêm ar raddfa fechan.
Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,422 o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,378. O ran canran y siaradwyr, fodd bynnag, gwelwyd cwymp rhwng 2001 a 2011 (12.1%>11.7%). Esbonnir hyn gan ostyngiad yn nifer y siaradwyr dros 65 oed; cafwydd cynnydd yn y grwpiau oedran 3–15 a 16–64.[1]
Lleolir Ysgol Mynydd Bychan (ysgol gynradd Gymraeg) yn ardal Gabalfa i'r de o'r Mynydd Bychan.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.