Yoganidrasana (Iogi'n Cysgu)
asana mewn ioga modern From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Yoganidrasana, (Sansgrit: योगनिद्रासन) neu Iogi'n Cysgu, sy'n un o'r asanas lledorwedd. Caiff ei ddefnyddio gan arbenigwyr ioga mewn ioga modern fel ymarfer corff. Weithiau fe'i gelwir yn Supta Garbhasana (Embryo'n Lledorwedd).[1] Rhoddir yr enw Dvi Pada Sirsasana i ffurf gydbwyso'r asana yma.
Remove ads
Geirdarddiad
Daw enw'r ystum hwn o'r Sansgrit योग ioga, sy'n golygu "uno", निद्र nidra sy'n golygu "cwsg", ac आसन āsana sy'n golygu "osgo'r corff" neu "siâp".[2] Mae enw'r asana'n deillio o'r cwsg iogig y sonnir amdano yn yr epig Hindŵaidd Mahabharata.[3]
Yn y 17g disgrifir Yoganidrasana mewn testun o'r enw Haṭha Ratnāvalī 3.70.[4]
Darlunir yr asana hwn mewn paentiad o'r 18g o'r wyth chakras ioga yn Mysore.[5] Ymddangosodd yr asana yn yr 20g mewn gweithiau fel Light on Yoga 1966.[6]
Remove ads
Disgrifiad
Yn Yoganidrasana, mae'r cefn ar y llawr ac mae'r traed yn cael eu lapio y tu ôl i'r pen, gyda'r breichiau wedi'u plethu o amgylch y coesau a'r corff, gyda'r dwylo wedi'u clampio y tu ôl i'r cefn isaf.[2][7] Effaith hyn yw tro cryf ymlaen. Mae BKS Iyengar yn graddio'r asana, o ran anhawster fel 18 allan o 60.[2][8] Dywedir bod yr ymarferiad hwn yn cynhesu'r corff yn gyflym.[2][9]
Yn Ioga ashtanga vinyasa, mae'r asana yma'n cael ei ddidoli'n ganolradd, o ran anhawster.[7]
Remove ads
Amrywiadau

Mae gan Dvi Pada Sirsasana ( Sansgrit द्विपाद शीर्षासन dvi pāda śīrṣāsana, sef "dwy droed tu ol i'r pen.[10] yn eitha tebyg, gyda'r corff wedi'i gydbwyso ar i fyny. Mae hyn yn anodd, gan fod tuedd i ddisgyn yn ôl.[2] Ceir asana paratoadol, sydd hefyd yn anodd o'r enw Eka Pada Sirsasana, lle gosodir un droed yn unig y tu ôl i'r pen (gw. y llun). Mae enwau'r ddau asana'n cael eu cymysgu mewn llenyddiaeth.
Yn y 19g mae Sritattvanidhi yn disgrifio ac yn darlunio asana o'r enw Aranyachatakasana (Aderyn y Fforest). Mae'n cyd-fynd Light ar Yoga ' disgrifiad o DVI Pada Sirsasana.[11]
Gweler hefyd
- Garbha Pindasana - asana unionsyth arall gyda threfniant tebyg
- Uttana Kurmasana - asana plygu mlaen yn eistedd gyda safle coes tebyg
- Yoganidra - "cwsg iogig", asana lledorwedd myfyriol
Darllen pellach
- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. ISBN 978-1855381667.
- Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.
- Vishnudevananda, Swami (1988) [1960]. The Complete Illustrated Book of Yoga. Three Rivers Press. ISBN 0-517-88431-3.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads