![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/54/Flag_of_IAEA.svg/langcy-640px-Flag_of_IAEA.svg.png&w=640&q=50)
Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA, Saesneg: International Atomic Energy Agency) ar 29 Gorffennaf 1957 i ehangu a chryfhau cyfraniadau ynni atomig i heddwch, iechyd a ffyniant. Mae'n cynorthwyo aelod-gwladwriaethau, yn enwedig gwledydd datblygol, trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg niwclear, yn cynnwys adweithyddion niwclear, arian i gyllido ymchwil, a chymorth a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â defnyddiau heddychlon ynni atomig. Mae'r IAEA hefyd yn ymchwilio i ffynonellau ynni i ddisodli tanwyddau ffosil.