From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Frank Zacharias Robin "Zac" Goldsmith (ganwyd 20 Ionawr 1975).
Zac Goldsmith | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1975 Westminster |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, golygydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, ecolegydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Minister of State for Pacific and the Environment, Minister of State for Overseas Territories, Commonwealth, Energy, Climate and Environment |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | James Goldsmith |
Mam | Annabel Goldsmith |
Priod | Sheherazade Goldsmith, Alice Rothschild |
Plant | Uma Goldsmith, Thyra Goldsmith, James Goldsmith, Dolly Goldsmith, Max Goldsmith, Edie Goldsmith |
Gwefan | http://www.zacgoldsmith.com/ |
Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab i'r dyn busnes a biliwnydd Syr James Goldsmith, ac Annabel Vane-Tempest-Stewart, merch i'r 8ed Ardalydd Londonderry. Addysgwyd yng Ngholeg Eton (a fe'i diarddelwyd o achos cyffuriau) a'r Cambridge Centre for Sixth-form Studies.
Roedd yn aelod Seneddol dros Richmond Park (ger Llundain) rhwng 2010 a 2016 fel aelod y blaid Ceidwadwyr, gyda mwyafrif o 23,015 yn 2015. Ymddiswyddodd o'r blaid a'i sedd yn San Steffan ym mis Hydref 2016 mewn protest am estyniad Maes Awyr Heathrow, a cheisiodd yn aflwyddiannus i gael ei ailethol i'r sedd yn yr is-etholiad fel ymgeisydd annibynnol. Fe'i etholwyd unwaith eto yn aelod seneddol Richmond Park yn etholiad brys Mehefin 2017.
Roedd yn ymgeisydd aflwyddiannus dros Faer Llundain ym mis Mai 2016.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.