2022
blwyddyn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
2022 yw trydedd flwyddyn Pandemig COVID-19, gyda'r amrywiad Omicron yn lledaenu'n gyflym. Cyrhaeddodd poblogaeth y byd wyth biliwn o bobl yn 2022. Roedd y flwyddyn hefyd yn dyst i nifer o drychinebau naturiol, gan gynnwys dau gorwynt dinistriol ar yr Iwerydd (Fiona ac Ian), a ffrwydrad llosgfynydd mwyaf pwerus y ganrif hyd yn hyn. Yn ystod rhan olaf y flwyddyn hefyd gwelwyd rhyddhau fersiwn cyhoeddus cyntaf ChatGPT gan OpenAI yn cychwyn cystadleuaeth rhwng cwmnïau enfawr i greu meddalwedd deallusrwydd artiffisial.
20g - 21g - 22g
1970au 1980au 1990au 2000au 2010au - 2020au - 2030au 2040au 2050au 2060au 2070au
2017 2018 2019 2020 2021 - 2022 - 2023 2024 2025 2026 2027

Cynyddodd gwrthdaro mewnol ym Myanmar a Rhyfel Tigray, a phob un o'r ddau yma'n achosi dros 10,000 o farwolaethau. Roedd 2022 yn bennaf nodedig am ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin, y gwrthdaro arfog mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.
Remove ads
Digwyddiadau
Ionawr



- 1 Ionawr
- Ffrainc yn derbyn arlywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd
- Angladd Desmond Tutu.[1]
- 2 Ionawr
- Adeilad senedd De Affrica yn cael ei ddifrodi'n fawr gan dân.
- Protestiadau gwrth-lywodraeth yn dechrau yn Casachstan.
- 7 Ionawr - Pandemig COVID-19: Nifer heintiadau COVID-19 a gofnodwyd drwy'r byd yn cyrraedd 300,000,000.[2]
- 8 Ionawr - Pandemig COVID-19: Mae'r doll marwolaeth COVID-19 drwy wledydd Prydain yn cyrraedd 150,000.
- 10 Ionawr - Honiadau i Boris Johnson bartio dros y cyfnod clo yn Downing Street.
- 13 Ionawr - Andrew, Dug Caerefrog yn rhoi'r gorau i'w deitlau brenhinol seremoniol oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn.[3]
- 15 Ionawr - Llosgfynydd "Hunga Tonga" yn Tonga yn achosi tswnamis ar draws y Cefnfor Tawel.[4]
- 16 Ionawr - Y chwaraewr tenis Novak Djokovic yn cael ei alltudio o Awstralia ar ôl colli dadl am statws brechu yn erbyn COVID-19.[5]
- 20 Ionawr - Zara Rutherford yn dod y ferch ieuengaf i hedfan o gwmpas y byd yn unigol, yn 19 oed.[6]
- 23 Ionawr - Storm drofannol Ana yn taro Madagascar, Malawi a Mosambic.
- 25 Ionawr - Heddlu Metropolitan yn cyhoeddi eu bwriad o ymchwiliad i Aelodau Seneddol Toriaidd mewn partion yn Downing Street, sy'n torri rheoliadau'r cyfnod clo.
- 29 Ionawr
- Tenis: Ashleigh Barty yn ennill teitl senglau'r merched yng nghystadleuaeth Agored Awstralia.
- Sergio Mattarella yn cytuno i weithio ail dymor fel Llywydd yr Eidal.
- 31 Ionawr - Tenis: Rafael Nadal yn ennill teitl senglau'r dynion yng nghystadleuaeth Agored Awstralia.
Chwefror


- 4 Chwefror - Seremoni agoriadol Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 yn Beijing.[7]
- 5 Chwefror
- Ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru'n colli i Iwerddon yn y gem agoriadol.
- Seiclon Batsirai yn taro Madagascar.
- 8 Chwefror - Pandemig COVID-19: Nifer heintiadau COVID-19 a gofnodwyd drwy'r byd yn cyrraedd 400,000,000.
- 10 Chwefror - Cressida Dick yn cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel Comisiynydd Heddlu Metropolitan Llundain.
- 15 Chwefror
- 18 Chwefror - Storm Eunice yn taro'r Deyrnas Unedig.
- 20 Chwefror - Diwedd Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing.
- 21 Chwefror - Argyfwng yr Wcráin: Vladimir Putin yn cydnabod annibyniaeth Donetsk a Luhansk.[8]
- 25 Chwefror - Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Cyrff chwaraeon a diwylliannol yn gosod sancsiynau ar Rwsia.
Mawrth


- 2 Mawrth: Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Mae'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 1,000,000 wedi dianc o Wcráin.
- 4 Mawrth
- 7 Mawrth - Pandemig COVID-19: Nifer y marwolaeth oherwydd COVID-19 wedi'i chofnodi yn cyrraedd 6,000,000.
- 8 Mawrth
- Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Y Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 2,000,000 wedi dianc o Wcráin.
- Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelenskyy yn anerch Ty'r Cyffredin yn y Deyrnas Unedig.
- 9 Mawrth - Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Milwyr Rwsia'n cynnal ymosodiad awyr ar ysbyty mamolaeth yn Mariupol.
- 10 Mawrth - Priodas cyunryw (o'r un rhyw) yn gyfreithlon yn Tsile.
- 11 Mawrth - Gabriel Boric yn dod yn Arlywydd Tsile.[10]
- 12 Mawrth - Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022: Ar ddechrau cynhadledd Llafur Cymru y Blaid yn Llandudno, Mark Drakeford yn beirniadu ymateb llywodraeth y DU.[11]
- 13 Mawrth - Diwedd Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Beijing.
- 16 Mawrth
- Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Rwsia'n gadael Cyngor Ewrop.
- Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Lluoedd arfog Rwsia'n bomio theatr yn Mariupol, lle'r oedd sifiliaid wedi bod yn cysgodi.[12]
- 19 Mawrth - Diwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022.[13]
- 27 Mawrth - 94ain Gwobrau'r Academi.
- 30 Mawrth - Cyhoeddodd Jamie Wallis ei fod yn drawsryweddol.[14]
Ebrill

- 3 Ebrill - Etholiad Costa Rica.
- 7 Ebrill - Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Rwsia wedi'u atal o Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.[15]
- 8 Ebrill - Prisiau bwyd byd-eang yn cyrraedd eu lefel uchaf ers i Fynegai Prisiau Bwyd y Cenhedloedd Unedig ddechrau yn 1990, gyda nwyddau fel gwenith yn codi bron i 20% o ganlyniad i argyfwng yr Wcráin.[16][17]
- 10 Ebrill - Imran Khan yn cael ei ddiswyddo fel Prif Weinidog Pacistan; Shehbaz Sharif yn ei le.
- 12 Ebrill - Pandemig COVID-19: Boris Johnson a Rishi Sunak yn cael dirwy am fynychu partion ac yn torri cyfyngiadau COVID-19.
- 13 Ebrill - Pandemig COVID-19: Nifer heintiadau COVID-19 a gofnodwyd drwy'r byd yn cyrraedd 500,000,000.
- 20 Ebrill - Tenis/Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Chwaraewyr o Rwsia a Belarws yn cael eu gwahardd o Bencampwriaeth Wimbledon 2022.
- 22 Ebrill - Ffrwydrad mewn purfa olew anghyfreithlon yn ne-ddwyrain Nigeria yn lladd 110 o bobl.
- 24 Ebrill - Emmanuel Macron yn cael ei ailaethol yn Arlywydd Ffrainc, gan drechu Marine Le Pen.
- 25 Ebrill - Elon Musk yn taro bargen i brynu Twitter.
Mai


- 5 Mai
- Etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru, yr Alban a rhannau o Loegr.
- Etholiad y Gynulliad Gogledd Iwerddon: Sinn Fein yw'r blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf.
- 6 Mai - Ffrwydrad yng Ngwesty Saratoga yn Havana, Ciwba yn lladd o leiaf 25 o bobl.
- 8 Mai - Enwi Ncuti Gatwa fel yr actor Doctor Who newydd.
- 10 Mai - Yoon Suk-yeol yn dod yn Arlywydd De Corea.
- 10 - 14 Mai - Eurovision: Enillydd y gystadleuaeth yw Cerddorfa Kalush Wcráin; Sam Ryder o'r Deyrnas Unedig sy'n gorffen yn ail gyda'i gan "Space Man".
- 16 Mai - Ymosodiad Rwsia ar Wcráin: Gwarchae Mariupol yn dod i ben gyda Rwsia yn cymryd y ddinas.
- 20 Mai
- Mae Wrecsam yn cael ei henwi fel dinas newydd.
- 21 Mai - Etholiad cyffredinol Awstralia.
- 23 Mai - Anthony Albanese yn dod yn Brif Weinidog Awstralia.
- 24 Mai - Cyflafan ysgol yn Uvalde, Texas.
- 25 Mai - Adroddiad Sue Gray ar "Partygate" yn cael ei gyhoeddi.
Mehefin


- 2 - 5 Mehefin - Dathliadau Jwbili Platinwm y Frenhines Elisabeth II o Loegr.
- 5 Mehefin
- 6 Mehefin - Boris Johnson yn ennill pleidlais fewnol o hyder.
- 14 Mehefin - Canada a Denmarc yn cyntyno ar ffin ar Ynys Hans, gan ddodd ag anghydfod tiriogaethol hirdymor i ben.
- 21 Mehefin - Streic reilffordd fwyaf y Deyrnas Unedig ers 1989.
- 22 Mehefin - Daeargryn maint 6.3 yn taro Affganistan, gan ladd 1,463 o bobl.
- 24 Mehefin - Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn gwrthdroi dyfarniad erthyliad "Roe v. Wade".
- 28 Mehefin
- Nicola Sturgeon yn datgelu cynllyniau am ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.
- Data cyfrifiad 2021 yn dangos bod poblogaeth Cymru yn 3,107,500.
- 30 Mehefin - Bongbong Marcos yn dod yn Arlywydd y Philipinau.
Gorffennaf
- 7 Gorffennaf - Boris Johnson yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog y DU.
- 11 Gorffennaf - Jamie Wallis, AS San Steffan, yn euog o fethu â stopio ac adrodd am ddamwain, gan adael ei gar mewn safle peryglus, ond ei glirio o yrru heb ofal a sylw dyladwy. Dirwy o £2,500 a'i wahardd rhag gyrru am chwe mis.[18]
- 17 Gorffennaf - Rhybudd ambr am dywydd eithriadol o boeth yn cael ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru.[19]
Awst
- 30 Awst - Marwolaeth Mikhail Gorbachev.
Medi
- 6 Medi - Liz Truss yn dod yn Brif Weinidog y DU.[20]
- 8 Medi - Marwolaeth Elisabeth II o Loegr yng Nghastell Balmoral; Siarl III yn dod yn frenin y DU.
- 11 Medi - Etholiad cyffredinol Sweden.
- 19 Medi - Angladd Brenhines Elisabeth II o Loegr.
- 25 Medi - Etholiad cyffredinol yr Eidal.
Hydref
- 20 Hydref - Liz Truss yn cyhoeddi ei hymddiswyddiad fel Prif Weinidog y DU.[21]
Tachwedd
- 6 Tachwedd–20 Tachwedd – Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2022 (COP27)[22]
- 13 Tachwedd – Ffrwydrad bom yng nghanol Istanbul, gan ladd 8 o bobol.
- 15 Tachwedd – Cyrch ar Wlad Pwyl, 2022[23]
- 21 Tachwedd – Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru'n chwarae yn erbyn Unol Daleithiau America yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.
Remove ads
Marwolaethau
Ionawr


- 2 Ionawr - Richard Leakey, 77, paleoanthropolegydd a gwleidydd[24]
- 6 Ionawr
- Peter Bogdanovich, 82, cyfarwyddwr ffilm[25]
- Sidney Poitier, 94, actor, cyfarwyddwr, actifydd a diplomydd[26]
- 9 Ionawr
- Maria Ewing, 71, soprano[27]
- Bob Saget, 65, actor a digrifwr
- 12 Ionawr - Ronnie Spector, 78, cantores[28]
- 14 Ionawr - Alice von Hildebrand, 98, gwyddonydd
- 17 Ionawr - Yvette Mimieux, 80, actores[29]
- 20 Ionawr - Meat Loaf, 74, actor a chanwr roc[30]
- 21 Ionawr - Felicia Donceanu, 90, arlunydd a chyfansoddwraig
- 22 Ionawr - Ellen Laan, 59, gwyddonydd
- 25 Ionawr
- Wyn Calvin, 96, actor a digrifwr[31]
- Barry Cryer, 86, comediwr
- Wim Jansen, 75, chwaraewr a rheolwr pêl-droed
- 28 Ionawr - Guy Laporte, 69, chwaraewr rygbi'r undeb
- 30 Ionawr - Geoffrey Ashe, 98, hanesydd[32]
Chwefror


- 8 Chwefror - Bamber Gascoigne, 87, cyflwynydd teledu ac awdur
- 9 Chwefror - Sebastian Bieniek, 46, peintiwr
- 12 Chwefror
- Godela Habel, 92, arlunydd
- Carmen Herrera, 106, arlunydd
- 13 Chwefror - Aled Roberts, 59, gwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg
- 15 Chwefror - P. J. O'Rourke, 74, dychanwr, newyddiadurwr a llenor gwleidyddol
- 16 Chwefror - Mona Saudi, 76, arlunydd
- 19 Chwefror
- Gary Brooker, 76, canwr-gyfansoddwr
- Kakuichi Mimura, 90, pel-droediwr
- 20 Chwefror - Stewart Bevan, 73, actor[33]
- 23 Chwefror - Antonietta Stella, 92, soprano
- 24 Chwefror
- Sally Kellerman, 84, actores[34]
- John Landy, 91, athletwr[35]
- 25 Chwefror - Shirley Hughes, 94, awdures plant
Mawrth

- 4 Mawrth
- Ruth Bidgood, 99, bardd[36]
- Iwan Edwards, 84, arweinydd corawl[37]
- Dai Jones, 78, canwr, ffermwr a chyflwynydd radio-teledu[38]
- Colin Lewis, 82, seiclwr
- Shane Warne, 52, cricedwr[39]
- 5 Mawrth - Lynda Baron, 82, actores[40]
- 9 Mawrth - Marjorie Clark, Arglwyddes Clark, 97
- 17 Mawrth
- Alan Rees, 84, chwaraewr rygbi'r undeb
- Oksana Shvets, 67, actores
- 20 Mawrth - Adriana Hoffmann, 82, botanegydd
- 23 Mawrth - Madeleine Albright, 84, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
Ebrill

- 1 Ebrill - Richard Cyril Hughes, 89, addysgwr a nofelydd
- 3 Ebrill - June Brown, 95, actores
- 6 Ebrill
- Jill Knight, 98, gwleidydd[41]
- David McKee, 87, awdur a darlunydd
- 17 Ebrill - Radu Lupu, 76, pianydd[42]
- 18 Ebrill - Syr Harrison Birtwistle, 87, cyfansoddwr[43]
- 21 Ebrill - Jacques Perrin, 80, actor
- 29 Ebrill - Georgia Benkart, 74, mathemategydd
Mai
- 1 Mai - Ivica Osim, 80, pel-droediwr
- 9 Mai - Inge Viett, 78, awdures a derfysgwraig
- 10 Mai - Leonid Kravchuk, 88, Arlywydd Wcráin
- 11 Mai - Shireen Abu Akleh, 51, newyddiadurwraig
- 13 Mai - Teresa Berganza, 89, mezzo-soprano
- 15 Mai - Kay Mellor, 71, actores a sgriptiwraig
- 17 Mai - Vangelis, 79, cyfansoddwr
- 21 Mai - Rosemary Radford Ruether, 85, gwyddonydd
- 22 Mai - Dervla Murphy, 90, seiclwraig
- 26 Mai
- Dyfrig Evans, 43, actor a cherddor
- Ray Liotta, 67, actor
Mehefin

- 8 Mehefin
- Aurora Altisent i Balmas, 93, arlunydd
- Bruce Kent, 92, actifydd heddwch
- Fonesig Paula Rego, 87, arlunydd
- 12 Mehefin
- Phil Bennett, 73, chwaraewr rygbi'r undeb
- Cen Llwyd, 70, bardd ac ymgyrchydd
- 17 Mehefin
- Marlenka Stupica, 94, arlunydd
- Nicole Tomczak-Jaegermann, 77, mathemategydd
- 26 Mehefin - Margaret Keane, 94, arlunydd
- 28 Mehefin - Fonesig Deborah James, 40, ymgyrchydd canser
- 29 Mehefin - Sonny Barger, 82, beiciwr modur, awdur ac actor
- 30 Mehefin - Indulata Sukla, 78, mathemategydd
Gorffennaf


- 2 Gorffennaf - Peter Brook, 97, cyfarwyddwr theatr
- 6 Gorffennaf - James Caan, 82, actor
- 8 Gorffennaf
- Shinzo Abe, 67, gwleidydd, Prif Weinidog Japan
- Larry Storch, 99, actor
- 12 Gorffennaf - Joan Lingard, 90, nofelydd
- 13 Gorffennaf - Chris Stuart, 73, newyddiadurwr
- 14 Gorffennaf
- Erica Pedretti, 92, arlunydd
- Ivana Trump, 73, model a dyn busnes
- 24 Gorffennaf - David Warner, 80, actor
- 25 Gorffennaf - David Trimble, 77, gwleidydd o Ogledd Iwerddon
- 26 Gorffennaf
- James Lovelock, 103, gwyddonydd
- Charles Ward, cyn-sylfaenydd y Stiwdios Rockfield
- 27 Gorffennaf - Bernard Cribbins, 93, actor
- 28 Gorffennaf - Pauline Bewick, 86, arlunydd
- 30 Gorffennaf - Nichelle Nichols, 89, actores
- 31 Gorffennaf - Ayman al-Zawahiri, 71, arweinydd Al-Qaeda
Awst

- 5 Awst
- Judith Durham, 79, cantores[44]
- Issey Miyake, 84, dylunydd ffasiwn[45]
- Aled Owen, 88, pel-droediwr[46]
- 8 Awst - Fonesig Olivia Newton-John, 73, actores a chantores[47]
- 9 Awst - Raymond Briggs, 88, cartwnydd ac awdur[48]
- 12 Awst - Wolfgang Petersen, 81, cyfarwyddwr ffilm[49]
- 14 Awst - Anne Heche, 53, actores
- 24 Awst - Ken Jones, 81, chwaraewr rygbi'r undeb[50]
- 29 Awst - Mick Bates, 74, gwleidydd[51]
- 30 Awst - Mikhail Gorbachev, 91, arweinydd yr Undeb Sofietaidd[52]
Medi

- 1 Medi - Barbara Ehrenreich, 81, awdures
- 2 Medi - Frank Drake, 92, astroffisegwr
- 5 Medi - Eva Zeller, 99, bardd a nofelydd
- 8 Medi
- Elisabeth II, 96, brenhines y Deyrnas Unedig a Realmau'r Gymanwlad
- Mavis Nicholson, 91, awdures a darlledwraig
- 13 Medi - Jean-Luc Godard, 91, cyfarwyddwr ffilm
- 14 Medi - Irene Papas, 96, actores
- 15 Medi - Eddie Butler, 65, chwaraewr a sylwebydd rygbi'r undeb
- 22 Medi - Fonesig Hilary Mantel, 70, nofelydd
- 23 Medi - Louise Fletcher, 88, actores
- 28 Medi - Coolio, 59, actor, rapiwr a chanwr
Hydref

- 3 Hydref - Ian Hamilton, 97, bargyfreithiwr ac ymgyrchydd Annibyniaeth yr Alban
- 4 Hydref - Loretta Lynn, 90, cantores gwlad
- 11 Hydref - Fonesig Angela Lansbury, 96, actores[53]
- 14 Hydref - Robbie Coltrane, 72, actor
- 17 Hydref - Fonesig Carmen Callil, 84, cyhoeddwraig, awdures a beirniad
- 21 Hydref - Masato Kudo, 32, pel-droediwr
- 28 Hydref - Jerry Lee Lewis, 87, canwr Americanaidd[54]
Tachwedd
- 11 Tachwedd - Sven-Bertil Taube, 87, canwr ac actor Swedaidd[55]
Remove ads
Y celfyddydau
Llyfrau
- Gweler hefyd Llenyddiaeth yn 2022
Ffilm
- Save the Cinema, yn serennu Jonathan Pryce
Teledu
- Bois 58[56]
- Cewri Cwpan y Byd[56]
- Dal y Mellt[57]
- Gogglebocs Cymru[58]
- Y Golau/The Light in The Hall, starring Joanna Scanlan, Alexandra Roach and Iwan Rheon[59]
Cerddoriaeth
Albymau
- Adwaith – Bato Mato[60]
- Cate Le Bon - [61]
- Stereophonics - [62]
Eisteddfod Genedlaethol (Tregaron)
- Cadair: Llŷr Gwyn Lewis[63]
- Coron: Esyllt Maelor[64]
- Medal Ryddiaith:
- Medal Ddrama: Gruffydd Siôn Ywain[65]
- Gwobr Goffa Daniel Owen:
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: Alain Aspect, John Clauser ac Anton Zeilinger[66]
- Cemeg: Carolyn Bertozzi, Morten P. Meldal a Karl Barry Sharpless
- Meddygaeth: Svante Pääbo[67]
- Llenyddiaeth: Annie Ernaux[68]
- Economeg: Ben Bernanke, Douglas Diamond a Philip H. Dybvig[69]
- Heddwch: Ales Bialiatski, Canolfan Hawliau Sifil (Wcráin) a Memorial[70]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads