Adweithydd niwclear

From Wikipedia, the free encyclopedia

Adweithydd niwclear
Remove ads

Mae adweithydd niwclear yn declyn enfawr sy'n medru rheoli'r broses ble mae atomau elfen ymbelydrol megis wraniwm-235 neu plwtoniwm-239 yn cael eu hollti; fel arfer fe wneir hyn er mwyn harneisio'r ynni a ddaw ar ffurf trydan. Mae'r adwaith cadwyn (Saesneg: chain reation) yma yn creu llawer o wres, sydd yn ei dro'n berwi'r dwr sydd yn yr adweithydd ac yn troi tyrbeins. Gelwir yr adeilad lle lleolir yr adweithydd, fel arfer, yn atomfa.

Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...
Thumb
Calon yr adweithydd pitw bach o'r enw CROCUS, a ddefnyddir i ymchwilio i adweithion niwclear yn École Polytechnique Fédérale de Lausanne yn y Swistir.

Mae'r dechnoleg yn ennill ynni trwy ddefnyddio adwaith niwclear, naill ai ymholltiad niwclear (Saesneg: nuclear fission) neu ymasiad niwclear. Ar hyn o bryd, dim ond ymholltiad niwclear a ddefnyddir yn fasnachol, lle mae'r adwaith niwclear yn cael ei reoli'n ofalus gan wyddonwyr. Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni allan o faint cymharol fychan o fater.

Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads