Afon Allier
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Afon yng nghanolbarth Ffrainc sy'n un o lednentydd afon Loire yw afon Allier (Occitaneg: Alèir).
Ceir ei tharddle yn y Margeride yn département Lozère, ac mae'n llifo i afon Loire gerllaw Nevers ger y ffin rhwng départements Cher a Nièvre. Mae'n rhoi ei henw i département Allier.
Mae'r afon yn nodedig am gyfoeth ei bywyd gwyllt, yn arbennig adar. Llifa trwy drefi a dinasoedd Langogne, Brioude, Langeac, Auzat-sur-Allier, Moulins , Varennes-sur-Allier a Vichy.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads