Afon Ariège
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Afon yn ne Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Garonne yw Afon Ariège (Ocsitaneg: Arièja). Mae'n 163.5 km o hyd. Rhydd ei henw i département Ariège.

Mae'n tarddu yn y Pyreneau, ar uchder o 2,400 m, gan lifo o'r lac Noir yng nghwm Font-Nègre, ger y ffin rhwng Andorra a département Pyrénées-Orientales yn Ffrainc. Mae'n llifo i mewn i afon Garonne i'r de o ddinas Toulouse, gerllaw Portet sur Garonne, yn département Haute-Garonne. Mae'n llifo trwy Ax-les-Thermes, Tarascon-sur-Ariège, Foix, Saint-Jean-de-Verges, Varilhes, Pamiers, Saverdun, Cintegabelle, Auterive a Venerque.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
