Alexandr Pushkin
bardd, dramodydd a nofelydd o Rwsia (1799-1837) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd a llenor Rwsaidd oedd Alexandr Sergeyevich Pushkin (Rwsieg: Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин) (6 Mehefin 1799 – 10 Chwefror 1837). Ystyrir ef yn fardd mwyaf Rwsia.
Remove ads
Bywgraffiad
Ganed ef ym Moscow, a chyhoeddodd ei gerdd gyntaf pan oedd yn bymtheg oed. Addysgwyd ef yn y Lyceum Ymerodrol yn Tsarskoe Selo. Roedd o blaid newidiadau cymdeithasol, a daeth i wrthdrawiad a'r llywodraeth yn nechrau'r 1820au. Alltudiwyd ef i dde Rwsia, a thra yno ysgrifennodd ei ddrama enwocaf, Boris Godunov, er na allodd ei chyhoeddi am rai blynyddoedd. Cyhoeddodd ei nofel farddonol Eugene Onegin rhwng 1825 a 1832.
Priododd Pushkin Natalya Goncharova yn 1831, a daethant yn rhan o'r llys ymerodrol yn St. Petersburg. Yn 1837, roedd sibrydion fod Natalya wedi dechrau carwriaeth a Georges d'Anthès. Rhoddodd Pushkin sialens iddo i ymladd, ond clwyfwyd Pushkin yn ddifrifol yn yr ornest a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Remove ads
Gwaith llenyddol
Barddoniaeth
- 1820 – Ruslan a Ludmila (Руслан и Людмила).
- 1820–21 – Kavkazsky plennik (Кавказский пленник) ("Carcharor y Caucasus").
- 1821 Gavriiliada (Гавриилиада) ("Y Gabrieliad").
- 1821–22 – Bratya razboyniki (Братья разбойники) ("Y lleidr-frodyr").
- 1823 – Bakhchisaraysky fontan (Бахчисарайский фонтан) ("Ffynnon Bakhchisaray").
- 1824 – Tsygany (Цыганы) ("Y Sipsiwn").
- 1825 – Graf Nulin (Граф Нулин) ("Cownt Nulin").
- 1829 – Poltava (Полтава) ("Poltava").
- 1830 – Domik v Kolomne (Домик в Коломне) (Y Tŷ bychan yn Kolomna").
- 1833 – Medny vsadnik (Медный всадник) ("Y Marchog Efydd").
Nofel farddonol
- 1825-32 – Yevgyeny Onyegin (Евгений Онегин) (Eugene Onegin).
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (Tri awdur), cyfieithwyd gan T. Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964.
- 'Y Marchogion' (Medny vsadnik Медный всадник 1833).
- 'Don Juan' (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин).
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads