Angharad ferch Nest

(1150- ) o dras fonheddig From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Angharad ferch Nest (fl. 12g) oedd gwraig William de Barri a mam Gerallt Gymro.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Roedd Angharad yn ferch i'r Dywysoges Nest (fl.1100-1120), ferch Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheubarth, gwraig Gerallt o Windsor, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri a cheidwad Castell Penfro. Mae'n debygol i Angharad gael ei geni ym Mhenfro.

Ar ôl priodi, William de Barri, fab Odo de Barri, bu Angharad yn byw gyda'i gŵr yng nghastell Maenorbŷr, Sir Benfro.

Cafodd pedwar mab gan William, sef Robert, Phylip, Gwallter a Gerallt (a aned yn 1146). Ymddengys fod Gerallt yn hoff iawn o'i fam gan ei fod yn cyfeirio ati yn aml, gyda balchder, yn ei weithiau llenyddol.

Remove ads

Ffynonellau

  • Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938)
  • Michael Richter, Giraldus Cambrensis (Aberystwyth, 1976)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads