Ar Log
band Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Grŵp cerddoriaeth gwerin o Gymru yw Ar Log.

Sefydlwyd y grŵp yn 1976, gyda Dave Burns (gitar), Dafydd Roberts (telyn deires, ffliwt), Gwyndaf Roberts (telyn ben glin a gitar bâs) a Iolo Jones (ffidil). Daethpwyd a hwy at ei gilydd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru, oedd yn awyddus i gael grŵp yn perfformio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru yn Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient y flwyddyn honno. Yno, daethant i gysylltiad a'r grŵp Gwyddelig The Dubliners, a awgrymodd y dylent aros gyda'i gilydd a throi'n broffesiynol.
Mae aelodau'r grŵp wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Yn y 1980au roedd ganddynt gysylltiad agos a Dafydd Iwan, a buont ar ddwy daith gydag ef yn 1982 a 1983. Roedd y gyntaf, Taith 700, yn nodi 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.
Mae Ar Log wedi rhyddhau 1 sengl, 9 albwm a 3 casgliad o 1978 i 2024. Hefyd, mae Ar Log wedi rhyddhau 2 sengl, 2 albwm ac 1 casgliad gyda Dafydd Iwan o 1982 i 2022.
Remove ads
Disgyddiaeth
Senglau
Albymau
Casgliadau
Gwaith Gyda Dafydd Iwan
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
