Arabeg

iaith From Wikipedia, the free encyclopedia

Arabeg
Remove ads

Iaith Semitaidd yw'r Arabeg (العَرَبِيةُ), gan ddeillio o Arabeg Glasurol yn y 6g. Fel ieithoedd Semitaidd eraill (heblaw Malteg), ysgrifennir Arabeg o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2]

Ffeithiau sydyn العربية/عربي/عربى al-ʻarabiyyah/ʻarabī, Ynganiad IPA ...

Heddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n Arabeg Lenyddol.[3]

Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg.

Remove ads

Yr wyddor Arabeg

Ysgrifennir yr wyddor Arabeg o'r dde i'r chwith. Rhennir y llythrennau yn ddau fath: y rhai sydd yn cysylltu ar y naill ochr a'r llall, a'r rhai sydd yn cysylltu â'r llythyren flaenorol yn unig. Yn y dosbarth cyntaf mae ffurf flaen, canol, olaf, ac annibynnol i bob llythyren; yn yr ail ddosbarth mae ffurf olaf ac annibynnol yn unig.

Ffonoleg

Mae ynganiad Arabeg yn amrywio o wlad i wlad ac o ardal i ardal, yn enwedig o ran llafariaid.

Cytseiniaid

Dyma'r cytseiniaid a ddefnyddir mewn Arabeg safonol, gan ddefnyddio'r Gwyddor Seinegol Ryngwladol

Rhagor o wybodaeth Gwefusol, Deintiol ...
Remove ads

Gramadeg

Trefn arferol y frawddeg Arabeg yw VSO (Berf - Goddrych - Gwrthrych), fel yn y Gymraeg.

Mae llawer o eiriau Arabeg a ieithoedd semitaidd eraill wedi eu ffurfio ar sail gwreiddyn semitaidd, tair cytsain fel arfer. Gall un gwraidd greu nifer fawr o eiriau cysylltiedig, er enghraifft gyda'r gwraidd k - t - b:

  • كَتَبْتُ katabtu 'Ysgrifenais'
  • كَتَّبْتُ kattabtu 'Gofynais i rywbeth gael ei ysgrifennu'
  • كَاتَبْتُ kātabtu 'Bûm yn llythyru'
  • أَكْتَبْتُ 'aktabtu 'Copïais'
  • اِكْتَتَبْتُ iktatabtu 'Tanysgrifiais'
  • تَكَاتَبْنَا takātabnā 'Buon ni'n llythyru â'n gilydd'
  • أَكْتُبُ 'aktubu 'Dw i'n ysgrifennu'
  • أُكَتِّبُ 'ukattibu 'Dw i'n gofyn i rywbeth gael ei ysgrifennu'
  • أُكَاتِبُ 'ukātibu 'Dw i'n llythyru'
  • أُكْتِبُ 'uktibu 'Dw i'n copïo'
  • أَكْتَتِبُ 'aktatibu 'Dw i'n tanysgrifio'
  • نَتَكَتِبُ natakātabu 'Dan ni'n llythyru â'n gilydd'
  • كُتِبَ kutiba 'Ysgrifennwyd'
  • أُكْتِبَ 'uktiba 'Copïwyd'
  • مَكْتُوبٌ maktūbun 'Ysgrifenedig'
  • مُكْتَبٌ muktabun 'Copïedig'
  • كِتَابٌ kitābun 'llyfr'
  • كُتُبٌ kutubun 'llyfrau'
  • كَاتِبٌ kātibun 'awdur'
  • كُتَّابٌ kuttābun 'awduron'
  • مَكْتَبٌ maktabun 'desg, swyddfa'
  • مَكْتَبَةٌ maktabatun 'llyfrgell, siop lyfrau'
  • ac ati.

Ieithoedd neu Dafodieithoedd

Thumb
Gwahanol fathau o Arabeg yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol

Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.

Grwpiau Tafodieithol

Remove ads

Ymadroddion Cyffredin

Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin.

  • عربية : Arabiyya : Arabeg
  • ويلزي : wailzi : Cymraeg
  • لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru
  • إنكليزي : 'inglizi : Saesneg
  • ! مرحبا : marHaban! : Helo!
  • ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".)
  • ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!
  • ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch!
  • كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae?
  • ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!
  • ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!
  • ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!
  • ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!
  • ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da!
  • ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da!
  • ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi!
  • ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!
  • ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.
  • ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!
  • ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!
  • ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!
  • ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch
  • ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i!
  • نعم : nAm : ïe / do / oes, etc.
  • : la' : nage / naddo / nag oes, etc.
  • ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!
  • ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!
  • ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads