Arch Noa

From Wikipedia, the free encyclopedia

Arch Noa
Remove ads

Yn ôl traddodiad, llong bren anferth a adeiladwyd gan y patriarch Noa i achub ei deulu a'r anifeiliaid rhag Y Dilyw oedd Arch Noa. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah Iddewig a'r Coran.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Crëwr ...
Thumb
Arch Noa: paentiad gan Edward Hicks, 1789
Thumb
Arch Noa: paentiad Islamaidd i ddarlunio'r Coran, 16eg-18fed ganrif

Yn adroddiad Y Dilyw yn y Beibl (Gen. 6-9), mae Duw yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i'w achub ef a'i dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad Babilonaidd.

Disgrifir hi (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Roedd yn 300 cufydd (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchder. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg, yn ôl yr arfer gyda llongau afon Ewffrates. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.

Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto – ar Ararat – adeiladodd Noa allor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yr enfys (Gen 9:9-17).

Am fod y arch wedi arnofio'n ddiogel ar wyneb dyfroedd y Dilyw, mae'n symbol o'r Eglwys.

Mae'r arch a hanes y Dilyw wedi ysbrydoli sawl artist dros y canrifoedd, yn Ewrop a'r byd Islamaidd. Heddiw mae Arch Noa yn symbol a ddefnyddir weithiau i gynrychioli cadwraeth a gwarchod anifeiliaid hefyd, am ei bod yn fodd i achub anifeiliaid y byd rhag dinistr.

Remove ads

Cyfeiriadau

  • Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Arch Noa.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads