Argrafflen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Fformat argraffu papur newydd yw argrafflen (Saesneg: broadsheet). Mae'n fformat mawr sy'n tueddu i gael ei gysylltu â phapurau newydd "uchel ael", mewn cyferbyniaeth â'r papurau tabloid, ond erbyn heddiw mae sawl papur newydd yn y dosbarth hwnnw, fel The Guardian, yn cyhoeddi yn y fformat tabloid hefyd neu wedi rhoi heibio'r fformat argrafflen yn gyfangwbl.

Yn hanesyddol, mae'r fformat argrafflen yn hŷn o lawer na'r fformat tabloid. Mantais y fformat yw gallu cynnwys erthyglau sylweddol ar un dudalen, ond mae ei faint yn gallu bod yn anghyfleus i'r darllenydd mewn cymhariaeth â'r tabloid, sy'n haws i'w drafod.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads