Athena

From Wikipedia, the free encyclopedia

Athena
Remove ads

Athena, neu Pallas Athena (Hen Roeg: Ἀθηνᾶ), oedd duwies rhyfel a doethineb ym mytholeg y Groegiaid a nawdd-dduwies dinas Athen. Mae hi'n cyfateb i'r dduwies Rufeinig Minerva.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...
Thumb
Cerflun o Athena

Cafodd ei geni o ben Zews yn llawn arfog ac yn dwyn gwaywffon javelin yn ei llaw. Hi oedd hoff blentyn Zews.

Yn ystod Rhyfel Caerdroea rhoddai Athena gymorth i'r Groegiaid yn erbyn gwŷr Caerdroea. Rhoddodd gymorth yn ogystal i'r arwr Heracles yn ei lafuroedd a thywysodd Perseus i wlad y Gorgoniaid. Diolch i nawdd ac amddiffyn y dduwies y cyrhaeddodd Odysseus ei gartref yn ddiogel, yn ôl Odyseia Homeros.

Roedd Athena yn dduwies wyryfol ac yn ddiwyd iawn. Roedd hi'n medru bod yn genfigennus, fel pan gollodd ornest yn erbyn Arachne o Lydia. Yn amser heddwch byddai'n troi ei nawdd at y celfyddydau a diwydiant, yn arbennig gwaith domestig.

Enwir dinas Athen ar ei hôl hi; roedd y Parthenon yn gysegredig iddi fel duwies y ddinas. Fe'i huniaethir â'r dduwies Rufeinig Minerva.

Remove ads

Gweler hefyd

  • 2 Pallas, asteroid a enwir ar ôl Pallas Athena.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads