Bae Colwyn
tref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Conwy, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Colwyn[1][2] (Saesneg: Colwyn Bay). Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Remove ads
Llywodraeth leol
Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn Ebrill 1974 roedd Bae Colwyn yn fwrdeistref ddinesig yn yr hen Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o tua 25,000, ond yn 1974 ddiddymwyd yr hen awdurdod i adael pum cymuned (seiledig ar y plwyfi). Mae gan Bae Colwyn yn ôl y diffiniad hwnnw boblogaeth o 9,742 (2001). Poblogaeth y cymunedau eraill a fu'n rhan o'r hen fwrdeistref yw Mochdre (1,862), Llandrillo-yn-Rhos (7,110), Hen Golwyn (7,626) a Llysfaen (2,652). Erbyn heddiw mae'r pum plwyf yn un ardal drefol mewn gwirionedd, gyda phoblogaeth o 30,265 o bobl (2001), yr uchaf yng ngogledd Cymru ac eithrio Wrecsam.
Remove ads
Hanes
Cnewyllyn y dref oedd Hen Golwyn ('Colwyn' yn wreiddiol) a Llysfaen i'r dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i'r gorllewin; tyfodd y dref rhwng y ddau le hynny (sy'n rhan o Fae Colwyn o safbwynt llywodraeth leol). Fel yn achos Llandudno a'r Rhyl, tyfodd Bae Colwyn yn gyflym yn ail hanner y 19g, yn sgîl dyfodiad y rheilffordd yn 1848, a dechrau'r 20g fel tref gwyliau glan môr hawdd i'w chyrraedd o drefi poblog gogledd-orllewin Lloegr.
Roedd y dref yn sir Clwyd hyd 1996, a bu'n rhan o'r Sir Ddinbych hanesyddol hyd 1974.
Mae'r dref wedi dioddef problemau cymdeithasol ers y 1980au gyda nifer o bobl ddiwaith o ogledd Lloegr symud i mewn a'r canran hŷn o'r boblogaeth gynyddu ar yr un pryd wrth i bobl symud yno ar ôl ymddeol.
Remove ads
Adloniant
Lleolir Theatr Colwyn yn y dref. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu.
Ar gyrion y Bae ceir Parc Eirias, gyda Phwll Nofio a meysydd chwarae.
Addysg
Gwasanaethir ardal Bae Colwyn gan ddwy ysgol uwchradd, sef:
Mae nifer o ddisgyblion yr ysgolion hyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo Cymru, yn Llandrillo-yn-Rhos.
Enwogion
- Ffred Ffransis - ganwyd yr ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg ym Mae Colwyn yn 1948.
- Terry Jones - digrifwr, actor a sgriptiwr, cyn aelod o griw Monty Python.
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn ym 1910, 1941 (Hen Golwyn) a 1947. Am wybodaeth bellach gweler:
Gefeilldref
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Remove ads
Oriel
- "Beach Road", tua 1875
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

