Bangka
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o ynysoedd Indonesia yw Bangka (hefyd Banka). Saif i'r dwyrain o ynys Sumatra. Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Bangka-Belitung. Y brifddinas yw Pangkalpinang.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 11,942 km² a phoblogaeth o tua 400,000. Fe'i gwahenir oddi wrth Sumatra gan Gulfor Bangka, sydd rhwng 11 km a 27 km o led. Tir isel, corslyd mewn rhannau, yw'r rhan fwyaf o'r ynys, gydag ambell fryn hyd at 700 medr. Mae tyfu pupur a mwyngloddio tun yn bwysig yma.


Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

