Basgeg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Basgeg
Remove ads

Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Remove ads

Hanes yr iaith

Thumb
Llawysgrif bachgen a gafodd ei gosbi am siarad Basgeg yn y 1960au: "En la escuela no tengo que hablar vasco" sef 'Wna i ddim siarad Basgeg eto yn yr ysgol', yn Sbaeneg.

Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.

Yn hanesyddol mae Gwlad y Basg wedi'i rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda mynyddoedd mawr y Pyreneau hefyd yn rhannu ardaloedd y wlad. Roedd llawer o siaradwyr Basgeg heb fawr o gysylltiad gyda siaradwyr o ardaloedd eraill a datblygwyd y tafodieithoedd yn dra gwahanol i'w gilydd. Sbaeneg a Ffrangeg oedd unig ieithoedd y system addysg ac roedd y Fasgeg wedi'i gwahardd, felly prin oedd nifer y Basgwyr oedd y gallu ysgrifennu a darllen yr iaith.

Cafodd Euskara Batua (Basgeg Unedig) ei lunio gan gefnogwyr yr iaith ar ddiwedd y 1960au ar ddechrau'r 1970au, cyfnod ar ddiwedd unbennaeth Ffasgaidd Sbaen. Eu gobaith oedd adfywio'r iaith a'i gwneud yn iaith pob maes o fywyd y wlad wrth i'r mesurau gormesol cael eu llacio.

Yn 1979 rhoddwyd peth hunanlywodraeth i ran o ochr deheuol y Wlad gan lywodraeth Sbaen, gan warantu statws swyddogol i'r iaith Fasgeg. Sefydlwyd canolfannau i oedolion ddysgu'r iaith (Euskaltegi), ysgolion iaith Fasgeg (Ikastola) a dechreuodd awdurdodau lleol a busnesau ddefnyddio'r iaith. Sefydlwyd sianeli teledu EiTB, Radio Euskadi Irratia a phapurau newydd. Ond yng ngogledd Gwlad y Basg ar ochr Ffrainc o'r ffin mae'r iaith yn parhau i fod heb ei chydnabod yn llawn, gyda Ffrangeg fel yr iaith swyddogol.

Ers y 1970au mae'r iaith Fasgeg wedi ennill lle yn y system addysg, darlledu, cyhoeddi, busnes a llywodraeth gyda nifer y siaradwyr yn cynyddu.

Remove ads

Enghreifftiau o'r iaith

Thumb
Hysbysfwrdd yn nhref Orio gyda phosteri mewn Basgeg
Thumb
Silffoedd llyfrau Basgeg mewn siop lyfrau yn ninas Donostia
  • Kaixo = Helo
  • Eskerrik asko = Diolch
  • Ikasle/ak = Myfyriwr/Myfyrwyr
  • Euskal Herria/Euskadi = Gwlad y Basg
  • Euskara/Euskera = Basgeg
  • Txokolatea = Siocled
  • Eta = a/ac
  • Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)
  • Bai = Ie
  • Ez = Nage
  • Kaixo!, Epa! = Hwyl!
  • Agur!, Adio! = Tara!
  • Ikusi arte = Tan tro nesaf!
  • Egun on = Bore da
  • Mesedez = Os gwelwch yn dda
  • Barkatu = Esgusodwch fi
  • Komunak = Tai bach
  • Komuna non dago? = Ble mae'r tai bach?
  • Non dago tren-geltokia? = Ble mae'r orsaf drên?
  • Ba al dago hotelik hemen inguruan? = Ble mae'r gwesty agosaf?
  • Zorionak = Gwyliau da
  • Ez dut ulertzen / Ez ulertzen dut = Dwi ddim yn deall
  • Ez dakit euskaraz = Dwi ddim yn siarad Basgeg
  • Ba al dakizu galesez? = Ydych chi'n siarad Cymraeg?
  • Zein da zure izena? = Beth ydy'ch enw chi?
  • Ongi etorri! = Croeso!
  • Egun on denoi = Croeso i bawb!
  • Berdin / Hala zuri ere = A chi hefyd
  • Jakina! Noski! = Mae'n iawn!
  • Nongoa zara? = O ble ydych chi'n dod?
  • Non dago ... ? = Ble mae'r ... ?
  • Badakizu euskaraz? = Ydych chi'n siarad Basgeg?
  • Bai ote? = Wel wrth gwrs?
  • Bizi gara! = Yma o hyd!
  • Bagarela = Ni hefyd
  • Topa! = Iechyd da!
  • Hementxe! = Yma ac acw!
  • Geldi! = Arhoswch!
  • Ez dut nahi... / Ez nahi dut... = Dwi ddim eisiau...
Remove ads

Gramadeg

Mae gramadeg y Fasgeg yn wahanol i ramadeg y Gymraeg a ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill mewn nifer o ffyrdd. O ran cyflyrau gramadegol, nid yw'r Fasgeg yn defnyddio'r system enwol-gwrthrychol - yn hytrach, mae'n defnyddio'r cyflwr absolutibo ar gyfer yr asiant gyda berfau cyflawn a gwrthrych berfau anghyflawn, a'r ergatibo ar gyfer goddrych berfau anghyflawn.

Thumb
System y Fasgeg
Thumb
System Enwol-Gwrthrychol fel yn y Gymraeg
Rhagor o wybodaeth Ergatibo–absolutibo, Enwol–gwrthrychol ...

Dyma enghraifft syml:

Rhagor o wybodaeth Berf cyflawn, Berf anghyflawn ...

Ffonoleg

Llafariaid

Rhagor o wybodaeth Llafariad blaen, Llafariad canol ...

Cytseiniaid

Rhagor o wybodaeth Gwefusol, Llafnol- Deintiol ...
Remove ads

Y Fasgeg yng Nghymru

Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.

Llyfryddiaeth

Cyffredinol

Cyfieithiadau i'r Gymraeg

Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:

  • O eira bedair gwaith (Lau aldiz elur) gan Bernardo Atxaga, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin, tud. 127, rhif 138, Gaeaf 2009.
  • Yfory wna i ddim colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin tud. 56 rhif 133, Gwanwyn 2008.
  • Breuddwydion yn y Gogledd / Huñvreioù en hanternoz skornet (Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 31 rhif 49, Awst 2008.
  • Dirgelion y Swyddfa / Kevrinoù ar Burev (Bulegoko misterioak), stori fer gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 37 rhif 47, Awst 2007.
  • Y Peiriant Golchi (Garbigailua), gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiadau Cymraeg a Llydaweg gan Rhisiart Hincks yn Breizh / Llydaw. tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
  • Dau Asyn / Daou Azen (Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 25 rhif 42, Ionawr 2006.
  • Esgidiau Rhad / Botou Marc'had Mad (Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 43, Mai 2006.
  • Y Fendith / Ar Benediste (Aitaren eta ...), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 41, Awst 2005.
  • Erthygl ddwyieithog am Patxi Zubizarreta, yn Llydaweg a Chymraeg, gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads