Braunschweig
dinas yn yr Almaen From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn nhalaith ffederal Niedersachsen yng ngogledd-orllewin yr Almaen yw Braunschweig. Saif i'r gogledd o fynyddoedd Harz ar Afon Oker, sy'n ei chysylltu â Môr y Gogledd trwy afonydd Aller a Weser. Dyma'r ail ddinas fwyaf yn Niedersachsen ar ôl Hannover.
Yn 2024 roedd gan y ddinas boblogaeth amcangyfrifedig o 252,962.[1]
Roedd y ddinas yn ganolfan fasnach bwerus yn yr Almaen yn ystod yr Oesoedd Canol, ac roedd yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd o'r 13g hyd at yr 17g. Ym 1600, Brunswick oedd y seithfed ddinas fwyaf yn yr Almaen.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

