Myanmar

gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia

Myanmar
Remove ads

Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Undeb Myanmar neu Myanmar (hefyd cyn 1989: Undeb Myanmar neu Myanmar, Bwrma). Mae'n ffinio â Bangladesh i'r gorllewin, India i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd-ddwyrain, Laos i'r dwyrain a Gwlad Tai i'r de-ddwyrain. Mae llywodraethau milwrol yn rheoli'r wlad ers 1962.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

O ran maint, hi yw'r wlad fwyaf ar dir mawr De-ddwyrain Asia (Indo-Tsieina) ac mae ganddi boblogaeth o tua 55 miliwn.[1] Prifddinas y wlad yw Naypyidaw, a'i dinas fwyaf yw Yangon (Rangoon gynt).[2]

Ymhlith y gwareiddiadau cynnar yn yr ardal roedd y dinas-wladwriaethau Pyu sy'n siarad Tibeto-Bwrmaidd ym Myanmar Uchaf a theyrnasoedd Mon ym Myanmar Isaf.[3] Yn y 9g, aeth pobl Bamar i mewn i ddyffryn Irrawaddy uchaf, ac yn dilyn sefydlu'r Deyrnas Baganaidd yn y 1050au, yn araf bach daeth yr iaith Byrmaneg, diwylliant, a Bwdhaeth Theravada yn flaenllaw yn y wlad. Syrthiodd y Deyrnas Baganaidd i'r Mongoliaid, a daeth sawl gwladwriaeth ryfelgar i'r amlwg. Yn yr 16g, wedi'i haduno gan linach Taungoo, daeth y wlad yn ymerodraeth fwyaf yn hanes De-ddwyrain Asia am gyfnod byr. Roedd llinach Konbaung o ddechrau'r 19g yn rheoli ardal a oedd yn cynnwys Myanmar modern ac yn rheoli Assam, Bryniau Lushai, a Manipur. Cipiodd Cwmni India'r Dwyrain reolaeth ar weinyddiaeth Myanmar ar ôl tri Rhyfel Eingl-Bwrma yn y 19g, a daeth y wlad yn wladfa Brydeinig. Ar ôl i Japan ei meddiannu am gyfnod byr, ailorchfygwyd Myanmar gan y Cynghreiriaid. Ar 4 Ionawr 1948, datganodd Myanmar ei hannibyniaeth oddi wrth Lloegr dan delerau Deddf Annibyniaeth Burma 1947.

Bu cryn aflonyddwch yn dilyn annibyniaeth Myanmar, gyda gwrthdaro parhaus hyd heddiw. Arweiniodd y coup d'état yn 1962 at unbennaeth filwrol o dan Blaid Rhaglen Sosialaidd Burma. Ar 8 Awst 1988, arweiniodd Gwrthryfel 8888 at drawsnewidiad i system amlbleidiol ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond gwrthododd y cyngor milwrol ildio pŵer, ac mae wedi parhau i reoli’r wlad hyd heddiw. Mae'r wlad yn parhau i fod yn llawn ymryson ethnig ymhlith llawer o grwpiau ethnig ac mae ganddi un o'r rhyfeloedd cartref sydd wedi para hiraf, yn y byd. Mae'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad arall wedi adrodd am droseddau cyson a systemig ar ddiffyg hawliau dynol yn y wlad.[4] Yn 2011, diddymwyd y junta milwrol yn swyddogol yn dilyn etholiad cyffredinol 2010, a gosodwyd llywodraeth sifil mewn enw. Rhyddhawyd Aung San Suu Kyi a charcharorion gwleidyddol a chynhaliwyd etholiad cyffredinol Myanmar 2015, gan arwain at well cysylltiadau tramor a lleddfu sancsiynau economaidd,[5] er bod triniaeth y wlad o'i lleiafrifoedd ethnig yn parhau i godi gwrychyn gwledydd eraill.[6]

Yn dilyn etholiad cyffredinol Myanmar 2020, pan enillodd plaid Aung San Suu Kyi fwyafrif clir yn y ddau dŷ, cipiodd byddin Bwrma (y Tatmadaw) bŵer eto mewn coup d'état.[7] Arweiniodd y coup, a gondemniwyd yn eang gan y gymuned ryngwladol, at brotestiadau eang a pharhaus ym Myanmar ac gwelwyd gormes gwleidyddol treisgar gan y fyddin.[8] Arestiwyd Aung San Suu Kyi er mwyn ei thynnu o fywyd cyhoeddus, a’i chyhuddo o droseddau’n amrywiol o lygredd, torri protocolau COVID-19 ayb; mae pob un o'r cyhuddiadau yn ei herbyn "wedi'u cymell yn wleidyddol" yn ôl sylwedyddion annibynnol.[9]

Mae Myanmar yn aelod o Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, y Mudiad Heb Aliniad, ASEAN, a BIMSTEC, ond nid yw'n aelod o Gymanwlad y Cenhedloedd er ei fod unwaith yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae Myanmar yn Bartner o fewn Sefydliad Cydweithredu Shanghai. Mae'r wlad yn gyfoethog iawn ei hadnoddau naturiol, megis jâd, gemau, olew, nwy naturiol, tîc a mwynau eraill, yn ogystal ag ynni adnewyddadwy, sydd â'r potensial pŵer solar uchaf o'i gymharu â gwledydd eraill yr ardal. Fodd bynnag, mae Myanmar wedi dioddef ers amser maith o ansefydlogrwydd, trais carfannol, llygredd, seilwaith gwael, yn ogystal â hanes hir o ecsbloetio trefedigaethol heb fawr o ystyriaeth i ddatblygiad dynol.[10]

Yn 2013, roedd ei CMC (enwol) yn US$56.7 biliwn o'i gymharu â Chymru a oedd yn US$98 biliwn yn 1918; bron dwywaith mor gyfoethog â Mayanmar. Roedd ei CMC (PPP) yn US$221.5 biliwn.[11] Mae'r bwlch incwm (rhwng y cyfoethogion a'r bobl dlawd) ym Myanmar ymhlith y bwlch ehangaf yn y byd, gan fod cyfran fawr o'r economi yn cael ei rheoli gan gyfeillion y jwnta milwrol.[12] Myanmar yw un o'r gwledydd lleiaf datblygedig yn y byd. Ers 2021, dadleoliwyd mwy na 600,000 o bobl ledled Myanmar oherwydd yr ymchwydd mewn trais ar ôl y coup, gyda mwy na thair miliwn o bobl mewn angen dybryd am gymorth dyngarol.[13]

Remove ads

Cynhanes

Thumb
Dinas-wladwriaethau Pyu yn yr 8g.

Mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bod Homo erectus yn byw yn y rhanbarth a elwir bellach yn Myanmar mor gynnar â 750,000 o flynyddoedd yn ôl (CP).[14] Gwyddom fod yr Homo sapiens cyntaf yn dyddio i tua 25,000 CP gyda darganfyddiadau o offer carreg yng nghanol Myanmar.[15] Ceir tystiolaeth o ddofi planhigion ac anifeiliaid o’r oes Neolithig a’r defnydd o offer carreg caboledig yn dyddio i rywbryd rhwng 10,000 a 6,000 CC wedi’i ddarganfod ar ffurf paentiadau ogof yn Ogofâu Padah-Lin.[16]

Cyrhaeddodd yr Oes Efydd tua 1500 CC, pan oedd pobl y rhanbarth yn troi copr yn efydd, yn tyfu reis ac yn dofi dofednod a moch; roedden nhw ymhlith y bobl gyntaf yn y byd i wneud hynny. Darganfuwyd olion dynol ac arteffactau o'r cyfnod hwn yn Ardal Monywa yn Rhanbarth Sagaing.[17] Dechreuodd yr Oes Haearn tua 500 CC (tua'r un pryd a Chymru) pan ddaeth gwaith haearn i'r amlwg mewn ardal i'r de o Mandalay heddiw. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos presenoldeb aneddiadau tyfu reis a oedd yn masnachu cyn belled â Tsieina rhwng 500 BCE a 200 CE.[18] Roedd diwylliannau Byrmanaidd yr Oes Haearn wedi dylanwadu ar wledydd fel India a Gwlad Thai, fel y gwelir yn eu harferion angladdol o gladdu plant. Mae hyn yn dynodi rhyw fath o gyfathrebu rhwng grwpiau ym Myanmar a lleoedd eraill, o bosibl trwy fasnach.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Myanmar

Lleolir Myanmar rhwng Bangladesh a Gwlad Tai, â Tsieina i'r gogledd ac India i'r gogledd-orllewin, efo arfordir ar Bae Bengal a'r Môr Andaman. Mae gan y wlad gyfanswm arwyneb o 678,500 km² (261,970 mi sg.), gyda bron ei hanner yn goedwig neu goetir. Yn dopograffegol, ar ei ffiniau â India a Tsieina yn y gorllewin mae gan y wlad fynyddoedd sy'n amgylchynu iseldir canolog o gwmpas Afon Ayeyarwady, ac sy'n ffurfio delta ffrwythlon lle mae'n llifo i'r môr. Mae rhan fwyaf poblogaeth y wlad yn byw yn yr iseldir canolog yma.

Remove ads

Diwylliant

Thumb
Dawns Bwrmaidd: y Kinnayi Kinnaya

Mewn pentref traddodiadol, y fynachlog yw canolbwynt bywyd diwylliannol. Mae mynachod yn cael eu parchu a'u cefnogi gan y lleygwyr. Seremoni o'r enw shinbyu yw'r digwyddiadau dod i oed pwysicaf i fachgen, pan aiff i'r fynachlog am gyfnod byr.[19] Anogir pob plentyn gwrywaidd mewn teuluoedd Bwdhaidd i fod yn brentis (dechreuwr Bwdhaeth) cyn ei ugain oed ac i fod yn fynach ar ôl hynny. Caiff merched seremonïau tyllu clustiau ar yr un pryd.[19] Mae diwylliant Burma'n fwyaf amlwg mewn pentrefi lle cynhelir gwyliau lleol trwy gydol y flwyddyn, a'r pwysicaf yw'r ŵyl pagoda.[20][21] Mae gan lawer o bentrefi warchodwr ac mae ofergoeliaeth a thabŵau yn gyffredin.

Thumb
Merch o Arakan (Rakhine) yn arllwys dŵr yn ystod Gŵyl Ddŵr Thingyan Blwyddyn Newydd Burma yn Yangon.

Cyflwynodd rheolaeth drefedigaethol Lloegr elfennau Seisnig, estron i ddiwylliant Myanmar a modelwyd y system addysg ar system addysg Lloegr. Mae dylanwadau pensaernïaeth drefedigaethol Prydeinig yn fwyaf amlwg mewn dinasoedd mawr fel Yangon.[22] ceir llawer o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig y Karen yn y de-ddwyrain a'r Kachin and Chin sy'n poblogi'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, yn ymarfer Cristnogaeth.[23]

Coginio

Nodweddir bwyd Bwrmaidd gan y defnydd helaeth o gynhyrchion o'r môr, megis pysgod, saws pysgod, ngapi (bwyd môr wedi'i eplesu) a chorgimwch sych. Mohinga yw'r pryd brecwast traddodiadol a dyma saig genedlaethol Myanmar. Mae bwyd môr yn gynhwysyn cyffredin mewn dinasoedd arfordirol, tra bod cig a dofednod yn cael eu defnyddio'n fwy cyffredin mewn dinasoedd â thir mewnol e.e. ym Mandalay. Mae pysgod dŵr croyw a berdys wedi'u hymgorffori mewn coginio mewndirol fel prif ffynhonnell protein ac fe'u defnyddir mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ffres, wedi'u halltu neu'n ffiled, wedi'u halltu a'u sychu, wedi'u gwneud yn bast hallt, neu wedi'u eplesu'n sur a'u gwasgu. Mae bwyd Bwrmaidd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o saladau (thoke), sy'n canolbwyntio ar un cynhwysyn mawr, yn amrywio o startsh fel nwdls reis, gwenith a reis, nwdls gwydr a vermicelli, i datws, sinsir, tomato, leim kaffir, ffa hir, a lahpet (dail te wedi'u piclo).

Chwaraeon

Mae'r Lethwei, Bando, Banshay, Pongyi thaing a chinlone yn grefftau ymladd traddodiadol ym Myanmar.[24] Mae pêl-droed yn cael ei chwarae ledled y wlad, hyd yn oed mewn pentrefi, ac mae ei dîm cenedlaethol yn cael ei reoli gan Ffederasiwn Pêl-droed Myanmar. Cynhaliwyd Gemau De-ddwyrain Asia 2013 yn Naypyidaw, Yangon, Mandalay a Thraeth Ngwesaung yn Rhagfyr gan gynrychioli'r trydydd tro i'r digwyddiad gael ei gynnal ym Myanmar. Cyn hynny cynhaliodd Myanmar y gemau ym 1961 a 1969.[25]

Thumb
Merched Caian mewn pentref ger Llyn Inle, 2010
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads