Bursa

dinas yn Nhwrci From Wikipedia, the free encyclopedia

Bursa
Remove ads

Dinas hynafol yng ngorllewin Twrci yw Bursa. Dyma Prusa neu Brusa yr Henfyd (Groeg: Προύσα, Prousa). Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw. Gyda phoblogaeth o 1,562,828 yn 2007, Bursa yw dinas bedwaredd fwyaf Twrci sydd hefyd yn un o ganolfannau diwylliannol a diwydiannol pwysicaf y wlad honno. Gorwedd Bursa ar lethrau gogledd-orllewinol cadwyn o fynyddoedd a ddominyddir gan Fynydd Uludağ, yn agos i lan Môr Marmara, i'r gogledd. Ei llysenw gan y Tyrciaid yw "Yeşil Bursa" ("Bursa Werdd"), oherwydd y toau teiliau gwyrdd niferus sydd i'w cael yn yr hen ddinas. Mae rheilffyrdd yn ei chysylltu ag Istanbul, Ankara ac Izmir.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Mosg Ulu Cami, Bursa

Alltudiwyd yr arweinydd Algeriaidd Abd El-Kader i'r ddinas yn 1852. Yn nes ymlaen, symudodd i Damascus.

Remove ads

Oriel

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads