Castell Caerdydd
castell yng Nghaerdydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19g.
Remove ads
Caer Rufeinig Caerdydd
- Prif: Caer Rufeinig Caerdydd
Mae rhan helaeth o furiau'r Castell mwnt a beili Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.
Remove ads
Y castell Normanaidd

Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyn Dŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, ei feddiannu yn 1488 fel diolch iddo am ei ran yn ymgyrchoedd ei nai.
Remove ads
20g hyd heddiw
Yn ystod y 19g, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno.
Ar ddechrau'r 20g, etifeddodd 4ydd Ardalydd Bute y castell a pharhaodd y gwaith adeiladu drwy'r 1920au. Gwerthwyd neu gwladolwyd tiroedd a buddiannau masnachol teulu'r Bute o amgylch Caerdydd ac erbyn yr Ail Ryfel Byd, nid oedd llawer yn eu meddiant heblaw'r castell. Yn ystod y rhyfel, adeiladwyd llochesi cyrch awyr helaeth ym muriau'r castell; gllochesi a allent gysgodi hyd at 1,800 o bobl. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute ar 4 Medi 1947. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell.
Mynediad a chyfleusterau
Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.
Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.
Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.
Remove ads
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads