Catar
gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad yng Ngorllewin Asia yw Catar (Arabeg: قطر ; ˈqɑ̱.tˁɑ̱r), yn swyddogol Gwladwriaeth Catar (Arabeg: دولة قطر Dawlaṫ Qatar) a leolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia yn y Dwyrain Canol. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia i'r de—ei hunig ffin—ac amgylchynir ei harfordir gan Gwlff Persia. Mae ynys Bahrein yn gorwedd i'r gorllewin, ar ochr draw Gwlff Bahrein. Doha, sy'n gartref i iwch na 80% o drigolion y wlad, ydy'r brifddinas.
Yn 2013 roedd poblogaeth Catar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 2,639,211 (2017)[1], sy'n llai na phoblogaeth Cymru.
Remove ads
Hanes
Yn yr 20g, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynnol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19g, ac mae Catar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani.[2] Wedi Sawdi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).[3][4]
Remove ads
Crefydd
Mae'r rhan fwyaf o Gatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.<[5][6][6][7][8][9] Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.[7][8]
Heddiw
Catar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd.[10][11] Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Catar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Catar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera.[12][13][14] Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.[15]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

