Cemeg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cemeg
Remove ads

Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Mae'n delio gan mwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal â'u trawsffurfiadau a'u rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddio'r wybodaeth yna ar y lefel macrosgobig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetig rhyngatomig a deddfau mecaneg cwantwm.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Mae cemeg yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin ynni a sut mae o'n adweithio gyda mater. Mae hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg foleciwlaidd.

Mae'n bosib gweld trefn yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol sy'n dangos y nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomau'r elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrin â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fyfyrwyr ysgol astudio cemeg hyd at lefel TGAU (16 oed).

Ffeithiau sydyn
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads