Chios
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ynys yn perthyn i Wlad Groeg yw Chios (Groeg: Χίος). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, saif yn rhan ogleddol Môr Aegaea, i'r de o ynys Chios, i'r gogledd o Patmos a'r Dodecanese, ac oddi ar arfordir gorllewinol Twrci.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 842 km2; 50 km o hyd a 29 km o led, y bumed o ynysoedd Groeg o ran maint. Fe'i gwahenir oddi wrth arfordir Twrci gan gulfor tua milltir o led. Ynys fynyddig ydyw, gyda'r copa uchaf, Pelineon, yn 1,297 medr o uchder. Mae'n enwog am gynhyrchu gwm mastig, ac mae ei llongau masnach yn bwysig. Poblogaeth yr ynys yn 2001 oedd 51,936, a'r brifddinas yw dinas Chios.
Enwyd mynachlog Nea Moni, sy'n dyddio o'r 11g, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Remove ads
Pobl enwog o Samos
- Homeros, bardd (yn ôl un traddodiad)
- Hippocrates o Chios, arloeswr meddygaeth
- Erasistratus, sylfaenydd ysgol feddygol Alexandria
- Andreas Papandreou (1919–1996), Prif Weinidog Groeg
- Mikis Theodorakis (g. 1925), cyfansoddwr
Dywed rhai fod Christopher Columbus wedi ei eni ar yr ynys.
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

