Chwarel Alexandra
chwarel lechi yng Nghwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Chwarel lechi ar lethrau Moel Tryfan, rhwng Rhosgadfan a'r Fron yng Ngwynedd oedd Chwarel Alexandra neu Alexandria neu Chwarel Cors y Bryniau. Saif ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Chwarel Moel Tryfan.
Dechreuwyd cloddio am lechi ar Foel Tryfan tua 1790-1800 gan Mesach Roberts, a gelwid y chwarel yn Gloddfa Mesach. Agorwyd chwarel Alexandra yn y 1860au, a thyfodd i gyflogi dros 200 o weithwyr a chynhyrchu 6,000 o dunelli o lechi y flwyddyn. Yn 1889 cyflogid 230 o weithwyr. Caeodd y chwarel tua diwedd y 1930au, ond gan fod gweithfeydd Chwarel Moel Tryfan wedi torri trwodd i'r chwarel yma, roedd rhywfaint o graig yn cael ei weithio yma hyd y 1960au.
Roedd llechi gorffenedig y chwarel yma yn cael eu cludo ar hyd Tramffordd yr Alexandra, a deiladwyd yn 1876, i ben inclên Bryngwyn ac i lawr at reilffordd yr NWNGR, yn ddiweddarach Rheilffordd Eryri.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Dewi Tomos, Llechi Lleu (Cyhoeddiadau Mei, 1980)
- Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads