Chwarren bitwidol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae'r chwarren bitwidol (neu'r hypoffeisis) yn un o'r chwarrennau endocrin - tua'r un faint â phusen. O ran siâp, mae'n ymwthio allan o waelod yr hypothalmws ar waelod isaf yr ymennydd. Saif yn y fosa' o fewn asgwrn y sffenoid.



1 Corffyn pineol 2 Chwarren bitwidol 3 Y chwarren theiroid 4 Hypothalmws 5 Chwarren adrenal 6 Pancreas 7 Ofari 8 Y ceilliau
Mae'n secredu (neu'n chwysu) hormonau gan reoli'r homeostasis, gan gynnwys yr hormonnau sy'n ysgogi chwarrennau endocrin eraill. Mae'n cysylltu i'r hypothalmws drwy'r 'median eminence'.
Remove ads
Pwrpas
Pwrpas yr hormonnau pitwidol ydy rheoli rhai o'r prosesau hyn:
- Datblygiad y corff dynol
- Pwysau gwaed
- Rhai agweddau o feichiogrwydd a genedigaeth
- Llaeth y fron
- Yr organau rhyw
- Chwarrennau'r theiroid
- Trosglwyddo ynni o fwyd yn ynni metabolig
- Rheoli dŵr ac osmolaredd yn y corff
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads