Colosseum
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Amffitheatr yn ninas Rhufain yn yr Eidal yw'r Colosseum neu Coliseum, (Eidaleg: Colosseo). Ei enw gwreiddiol oedd yr Amphitheatrum Flavium ("Amffitheatr y Flafiaid"). Y Colosseum yw'r amffithatr mwyaf a adeiladwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Saif y Colosseum ychydig i'r dwyrain o Fforwm Rhufain. Dechreuwyd ei adeiladu gan yr ymerawdwr Vespasian rhwng 70 a 72 OC, a gorffennwyd y gwaith yn 80 yn nheyrnasiad ei fab, Titus. Gwnaed newidiadau i'r cynllun yn ystod teyrnasiad brawd Titus, Domitian 81-96).
Gallai'r Colosseum ddal tua 50,000 o wylwyr, a chafodd ei ddefnyddio am bron 500 mlynedd. Fe'i defnyddid ar gyfer ymladdfeydd gladiator a difyrrion eraill.

Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads